Beth mae’n ei olygu i fod yn ddigartref yng Nghymru heddiw?
Soniwch am y gair ‘digartref’ ac mae llawer yn meddwl am bobl sy’n cysgu ar y stryd. Y gwirionedd yw mai rhan fach iawn o’r darlun yw pobl sy’n cysgu ar y stryd.
Bob blwyddyn yng Nghymru mae dros 15,000 o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref, yn cynnwys 2,800 o blant. O’r holl bobl hyn, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y stryd.
Bydd y gweddill yn ddigartref ‘cudd’ – yn cysgu ar soffa ffrind; yn byw mewn llety dros dro wedi’i ddarparu gan y cyngor; neu’n byw mewn cartrefi sydd mewn cyflwr gwael iawn, neu’n anaddas ar gyfer eu anghenion.
Bydd 10,000 pellach y flwyddyn yn dod o fewn dyddiau o golli eu cartref ac yn llwyddo i osgoi digartrefedd dim ond oherwydd gwaith caled gwasanaethau digartrefedd y cyngor ac asiantaethau eraill fel Shleter Cymru.