Sefydlwyd Shelter Cymru ar y gred bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gael cartref gweddus a diogel. Ac eto, bob dydd mae 8 person ifanc ychwanegol – yn union fel Siân – yn mynd yn ddigartref.
Mae eich rhodd yn golygu y gallwn fod yno pan fydd angen, gan helpu pobl i ymladd dros eu hawliau, ailsefydlu eu hunain a dod o hyd i gartref a’i gadw. Rydym yn cynnig cymorth hollbwysig am ddim ac mae ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd ei angen.
Cyfrannwch heddiw er mwyn i ni allu parhau i helpu pobl fel Siân i ddod o hyd i rywle diogel i’w alw’n gartref.