Stori Harri

Cafodd Harri, sy’n 18 oed, blentyndod anodd; roedd ganddo anabledd corfforol ac roedd yn dioddef gyda’i iechyd meddwl. Treuliodd Harry amser mewn llety â chymorth wrth aros i addasiadau gael eu gwneud i’w gartref parhaol, a fyddai’n gweddu i’w anghenion yn well. Roedd byw gyda grŵp mawr o bobl yn ei wneud yn bryderus ac roedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’i sefyllfa newydd. Pan geisiodd leisio’i bryderon a gofyn am help, anwybyddwyd ef a diystyrwyd ei broblemau iechyd meddwl. Nid oedd yn gallu aros yno mwyach.

Aeth Harry yn ddigartref.

Sefydlwyd Shelter Cymru ar y gred bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gael cartref gweddus a diogel. Ac eto, bob dydd mae 8 person ifanc ychwanegol – yn union fel Harri – yn mynd yn ddigartref.

Mae eich rhodd yn golygu y gallwn fod yno pan fydd angen, gan helpu pobl i ymladd dros eu hawliau, ailsefydlu eu hunain a dod o hyd i gartref a’i gadw. Rydym yn cynnig cymorth hollbwysig am ddim ac mae ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd ei angen.

Cyfrannwch heddiw  er mwyn i ni allu parhau i helpu pobl fel Harri i ddod o hyd i rywle diogel i’w alw’n gartref.

Cyfrannu nawr

Heb eich rhoddion, ni allem gadw pobl yn eu cartrefi, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch roi i ni.

Cyfrannu nawr →

Sliperi i Shelter Cymru

Helpwch ni i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru drwy wisgo sliperi i’ch ysgol neu weithle. Peidiwch ag anghofio i rannu eich lluniau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #slippersforsheltercymru

Cymerwch ran →

Sign up

Ymgyrchu gyda ni

Cofrestrwch fel cefnogwr ymgyrch a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’r newyddion diweddaraf a sut y gallwch helpu frwydr yn erbyn yr angen am dai yng Nghymru.

Ymgyrchu gyda ni →