Stori Sophia

Cafodd Soffia ei magu mewn cartref gofal, ac roedd ei phlentyndod yn anodd wrth iddi gael ei symud rhwng cartrefi maeth a chartrefi i blant. Yn 17 oed, cafodd ei rhoi mewn llety â chymorth ac roedd hi’n ei chael hi’n anodd ymgartrefu yno. Roedd hi’n cael ei phoenydio gan ei chyd-letywyr yn aml a phan gododd dadl, cafodd ei throi allan o’r cartref. Roedd hi’n teimlo’n isel ac yn unig. Roedd hi’n meddwl bod pethau’n gwella ar ôl iddi ddod o hyd i fflat fach i’w rhentu. Cyn pen dim, gwelodd fod y fflat yn llawn lleithder a llwydni; yn ystod y gaeaf caled, roedd twll yn y to a daeth eira i mewn drwy’r nenfwd. Doedd unman diogel a chynnes ganddi i fynd iddo.

Roedd Soffia yn ddigartref.

Sefydlwyd Shelter Cymru ar y gred bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gael cartref gweddus a diogel. Ac eto, bob dydd mae 8 person ifanc ychwanegol – yn union fel Soffia – yn mynd yn ddigartref.

Mae eich rhodd yn golygu y gallwn fod yno pan fydd angen, gan helpu pobl i ymladd dros eu hawliau, ailsefydlu eu hunain a dod o hyd i gartref a’i gadw. Rydym yn cynnig cymorth hollbwysig am ddim ac mae ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd ei angen.

Cyfrannwch heddiw  er mwyn i ni allu parhau i helpu pobl fel Soffia i ddod o hyd i rywle diogel i’w alw’n gartref.

Cyfrannu nawr

Heb eich rhoddion, ni allem gadw pobl yn eu cartrefi, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch roi i ni.

Cyfrannu nawr →

Sliperi i Shelter Cymru

Helpwch ni i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru drwy wisgo sliperi i’ch ysgol neu weithle. Peidiwch ag anghofio i rannu eich lluniau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #slippersforsheltercymru

Cymerwch ran →

Sign up

Ymgyrchu gyda ni

Cofrestrwch fel cefnogwr ymgyrch a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’r newyddion diweddaraf a sut y gallwch helpu frwydr yn erbyn yr angen am dai yng Nghymru.

Ymgyrchu gyda ni →