Ymgyrchoedd
Mae Shelter Cymru yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn sy’n cael trafferth gydag amodau tai gwael neu ddigartrefedd – a rydym yn ymgyrchu’n galed i atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Credwn bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gartref gweddus a diogel. Eto i gyd, er bod y Deyrnas Unedig yn un o wledydd cyfoethocaf y byd, mae dal llawer gormod o bobl sydd heb le y gallant ei alw’n gartref.