Dadgartrefu Heb Fai – Shelter Cymru

Yn Shelter Cymru credwn y dylai tenantiaid preifat gael y sicrwydd o wybod na allant gael eu dadgartrefu heb reswm.

Er mwyn rhoi’r sicrwydd hyn iddynt, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd dadgartrefu ‘heb fai’

Yng Nghymru mae o leiaf 42% o denantiaid preifat heb gytundeb tenantiaeth tymor parhaol, sy’n eu gwneud yn agored i ddadgartrefu ‘heb fai’.

Os yw tenant yn gofyn am atgyweiriadau neu os yw am wneud cwyn, mae mewn perygl o gythruddo’r landlord a chael ei ddagartrefu.

Does braidd dim amddifyniad cyfreithiol yn erbyn dadgartrefu ‘heb fai’.

Unwaith mae rhybudd wedi’i roi, mae gan denantiaid ddau fis i ddod o hyd i gartref newydd, neu ddod yn ddigartref.

Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy cymhleth i fenywod sydd, yn ôl ein hymchwil, yn fwy tebygol o gael cynnig ‘rhyw am rent’, ac yn gorfod dioddef amodau gwael oherwydd eu bod yn ofni dadgartrefu dialedd.

Rydym am weld tenantiaid preifat yng Nghymru yn cael yr un hawliau â thenantiaid eraill ar draws y byd.

Bydd hyn ddim yn rhwystro landlordiaid rhag cael eu eiddo nôl os oes ganddynt reswm dilys – ond bydd yn rhoi’r hyder i denantiaid os byddant yn talu’r rhent ac yn gofalu am y lle, y bydd ganddynt gartref am ba hyd bynnag y maent ei angen.

Ym mis Ebrill 2019 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu i wahardd dadgartrefu ‘heb fai’ cyn 2021.

Diweddariad ar yr ymgyrch

Ym mis Ebrill 2019 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu i wahardd dadgartrefu ‘heb fai’ cyn 2021.

Mae’r Llywodraeth bellach wedi edrych ar hyn yn fanylach ac wedi creu cynnig diwygiedig. Maen nhw’n cynnig cynyddu hyd y cyfnod rhybudd sydd ei angen ar gyfer Rhybudd Adran 21

Join as a Campaign Supporter

We will never release your personal details to any organisation outside of Shelter Cymru for mailing or marketing purposes. By filling in this form you agree to be contacted by us via email with updates on this, and our other housing and homelessness campaigns.

Straeon Gwir

Roedd Amanda a’i dau o blant yn chwilio am gartref i’w rentu yng Nghaerdydd. Edrychon nhw ar gartref oedd yn eiddo i gwpwl oedd yn symud i’r cyfandir. Roedden nhw cyn hynny wedi cynnig y lle i’w mab i fyw ynddo, ond doedd ganddo ddim diddordeb oherwydd bod y lle mewn cyflwr gwael.

Gofynnodd Amanda a allai ail-addurno’r lle a dywedodd y cwpwl bod hynny’n iawn. Gofynnodd hefyd am gytundeb tenantiaeth hirach er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd i’w theulu a rhoddwyd caniatad iddi wneud hyn, gan roi tenantiaeth dwy flynedd iddi gyda chymal o eithrio ar ôl blwyddyn.

Aeth y cwpwl i fyw dramor a dros y flwyddyn neasf buddsoddodd Amanda amser ac arian sylweddol yn troi’r tŷ yn gartref iddi hi a’i phlant.

Ar ôl blwyddyn cysylltodd y cwpwl gan ddweud eu bod yn dychwelyd i Gymru am wyliau a’u bod yn dymuno archwilio’r lle.

Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r adnewyddiadau roedd Amanda wedi’u gwneud ac yn llawn canmoliaeth.

Yr wythnos ganlynol cafodd Amanda rybudd dadgartefu ‘heb fai’.

Roedd y cwpwl wedi gweithredu’r cymal o eithrio oherwydd eu bod mor bles gyda chyflwr y cartref eu bod wedi penderfynu rhoi’r lle i’w mab wedi’r cyfan.

Er gwaetha’r ffaith bod Amanda a’i phlant wedi bod yn denantiaid delfrydol, doedd ganddynt ddim dewis ond gadael y lle a ddaeth yn gartref teuluol iddynt. Bu’n rhaid i Amanda ariannu’r symud ei hunan a chafodd ddim iawndal o gwbl.

Cyfrannwch

Rydym angen eich cefnogaeth i roi help hanfodol i bobl sy’n wynebu problemau tai ar draws Cymru. Helpwch ni os gwelwch yn dda.

Cyfrannwch nawr >

Rhannwch ein hymgyrch #EndNoFaultEvictions

Ymgyrchoedd cyfredol

Cadwch yn gyfredol gyda’n ymgyrchoedd diweddaraf, a beth rydym yn ei wneud i atal digartrefedd yng Nghymru.

Darllenwch mwy >

Cefnogwch ein ymgyrchoedd

Rydym angen cymaint o bobl â phosibl i roi cefnogaeth i’r ymgyrch – helpwch ni i roi terfyn ar ddigartrefedd!

Arwyddwch >

Llwyddiant ymgyrchoedd

Rydym wrth ein boddau bod Rhentu Teg eisoes yn gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n rhentu yng Nghymru.

Darllenwch mwy >

Font Resize