Ymgyrchoedd
Mae Shelter Cymru yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn sy’n cael trafferth â thai gwael neu ddigartrefedd, ac rydym ni’n ymgyrchu’n frwd i’w atal yn y lle cyntaf.
Credwn fod gan bawb yr hawl i gartref gweddus a sicr. Eto, er bod y Deyrnas Unedig ymhlith gwledydd cyfoethocaf y byd, mae llawer gormod o bobl o hyd heb le i alw’n gartref.
Ymgyrch
Mynnwch fod Llywodraeth Cymru yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol
Ymunwch â’n galwad ni heddiw i ddarparu cartref da i bawb yng Nghymru. Gadewch i ni wneud tai gwael a digartrefedd yn hen hanes.

Ymgyrchoedd llwyddiannus
Gyda’ch cymorth, rydym wedi cyflawni pethau gwych yn y frwydr yn erbyn tai gwael a digartrefedd. Mynnwch olwg ar rai o’r llwyddiannau o’n hymgyrchoedd blaenorol yma.