Gwirfoddoli gyda Shelter Cymru
Mae gennym gyfle gwirfoddoli newydd cyffrous iawn yn ardal Abertawe, Nedd Port Talbot a Chaerfyrddin
Mae’r Prosiect Tai a Mwy newydd yn rhoi cyfle i chi weithio ochr yn ochr ag un o’n gweithwyr achos profiadol i’w cynorthwyo nhw i gefnogi pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyngor tai yn yr ardaloedd hyn.
Byddwch yn helpu i roi cynrychiolaeth a chefnogaeth i bobl i sicrhau eu bod yn deall yn well y cyngor sydd yn cael ei roi yn ein cymorthfeydd. Drwy’r cyfle gwirfoddoli hwn cewch sgiliau a phrofiadau newydd ar hyd y ffordd ynghyd â chefnogi pobl i deimlo’n fwy hyderus ynghylch y broses cynghori.
Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad rôl ar gyfer y cyfle hwn yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn, yna llenwch ffurflen gais gwirfoddoli neu cysylltwch â Vivienne Planck am fwy o wybodaeth:
E: viviennep@sheltercymru.org.uk
P: 01792 483079
Hoffem nodi ein bod wedi cwblhau y cylch cyntaf o recriwtio ar gyfer y prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd y cylch nesaf yn cychwyn Awst / Medi 2018. Mae croeso i chi gyflwyno cais yn y cyfamser.
Am ffyrdd eraill o gymryd rhan gyda Shelter Cymru, ewch i’n tudalennau cymerwch rhan i ddarganfod mwy am ffyrdd gwahanol y gallwch gefnogi ein gwaith.