Y blynyddoedd nesaf…
Shelter Cymru yw elusen pobl a thai Cymru. Mae pobl bob amser wedi bod wrth galon popeth rydym yn ei wneud a byddwn yn parhau i weithio ar sail y gred sylfaenol bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gartref gweddus a diogel.
Dros y blynyddoedd nesaf, rydym am gefnogi mwy o bobl ond rydym hefyd am i mwy o bobl ein cefnogi ni drwy ymgyrchu, gwirfoddoli, codi arian neu roi yn rheolaidd.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Adeiladu gwasanaeth craidd sylfaenol a chynyddu ein gwasanaethau rheng flaen.
- Arwain mudiad torfol i ymgyrchu dros dai gweddus.
- Creu tipyn mwy o annibyniaeth ariannol.
- Sefydlu diwylliant uwch o fentergarwch ar draws yr elusen.
Mwy o wasanaethau i helpu mwy o bobl
Byddwn yn cynyddu y nifer o bobl rydym yn eu helpu o 50 y cant erbyn 2020.
Byddwn yn sefydlu gwasanaeth craidd sylfaenol gan ddefnyddio ystod o ddulliau o ddarparu cyngor a chefnogaeth.
Byddwn yn gwella cefnogaeth ariannol i’n gwasanaethau drwy gynyddu ein llwyddiant ym maes grantiau a chytundebau.
Byddwn yn cyflwyno mentrau newydd i gynyddu diogelwch ac ansawdd y sector rhentu priefat.
Byddwn yn creu rhwydwaith o gefnogwyr ymgyrchoedd gweithgar i ddatblygu mudiad torfol i greu newid, a sefydlu strwythurau i sicrhau ein bod yn dal yn atebol i’n cefnogwyr.
Adeiladu mudiad poblogaidd
Byddwn yn parhau i ddatblygu prosiectau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, gan osod pobl wrth galon ein gwaith.
Byddwn yn arwain ymgyrchoedd sy’n agos at galon y cyhoedd yng Nghymru.
Byddwn yn lobïo i gynyddu hawliau tai, a gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i greu llais cryfach a fydd yn arwain at bolisïau, arferion a diwylliant gwahanol.
Gwell annibyniaeth ariannol
Byddwn yn helpu mwy o bobl drwy sicrhau annibyniaeth ariannol cynyddol a chynyddu ein incwm codi arian i filiwn o bunnoedd yn flynyddol.
Byddwn yn cynyddu nifer ein cefnogwyr i 10,000 erbyn 2020.
Byddwn yn atgyfnerthu ein perthynas gyda’n cefnogwyr i annog ymrwymiad i Shelter Cymru.
Diwylliant gwell o fentergarwch
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw incwm yn cael ei ail-fuddsoddi er twf er mwyn helpu mwy o bobl.
Byddwn yn sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau a chynnydd mewn incwm ar draws y sefydliad.
Byddwn yn buddsoddi yn llywodraethiant, arweinyddiaeth a thechnoleg yr elusen i sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi a’u ymbweru i roi o’u gorau a bod ein arferion gwaith yn gost-effeithiol.
Byddwn yn sicrhau cyllid a chyflwyno gwasanaethau mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill lle bo’n briodol ac yn effeithlon.
Hoffem glywed wrthych
Rydym am i bawb yng Nghymru gael cartref gweddus. Rydym yn gweithio dros bobl mewn angen tai drwy ddarparu cyngor ar dai yn rhad, yn gyfrinachol ac yn annibynnol.
Am fwy o wybodaeth ewch i Mynnwch Gyngor.
Am broblemau tai brys ffoniwch ein llinell cyngor a chefnogaeth ar 0845 075 505. Mae’r llinellau ar agor 9yb – 4.yh Llun – Gwener
Gall ein ynghynghorwyr:
- roi cymorth ymarferol uniongyrchol
- esbonio eich hawliau
- gynnig cyngor ac arweiniad
- awgrymu cefnogaeth arbenigol neu lleol i’ch cynorthwyo yn y tymor hir
Lawrlwythwch ein Gweledigaeth 2020»
Nôl i’r dechrau