Adnoddau addysg
Mae Shelter Cymru nid yn unig yn gweithio i geisio gwella hawliau tai, ond mae hefyd yn ceisio addysgu plant a phobl ifanc yng Nghymru fel bod ganddyn nhw’r adnoddau iawn fel oedolion ifanc i ymdrin â’r byd tai. Gweler yr adnoddau isod ar dai, digartrefedd a byw’n annibynnol ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau grŵp, neu ar gyfer tiwtora un i un.
Pecyn Drysau Agored
Ar gyfer disgyblion 11 i 16 oed
Nod y casgliad hwn o fideos a deunyddiau pdf yw egluro ac ennyn trafodaeth am y diffiniadau o gartref a digartrefedd, a gall helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer gadael cartref a’r hyn y mae hynny’n ei olygu’n ymarferol. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau amrywiol: ar gyfer dysgu ffurfiol ac anffurfiol mewn ysgolion a cholegau neu glybiau ieuenctid. Mae ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn rhannu gwybodaeth. Nod y pecyn yw lleihau digartrefedd ac anghenion tai yn y dyfodol ymysg pobl ifanc.
Mae’r pecyn yn cynnwys 7 adran, gydag adrannau 1-3 ar gael ar ffurf fideo YouTube. Gallwch ddod o hyd i’r Pecyn Gweithgareddau yma.
1. Beth yw cartref?
2. Beth yw digartrefedd?
3. Gadael cartref
Pecyn Y Llwybr Cywir
Ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed
Arweiniad Ymarferwyr Ifanc i Dai a Digartrefedd yw Pecyn Y Llwybr Cywir, ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer athrawon, tiwtoriaid, gweithwyr ieuenctid ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc am dâl neu yn wirfoddol. Mae’r pecyn yn darparu gwybodaeth am faterion tai amrywiol sy’n wynebu pobl ifanc a gall helpu’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc i nodi problemau a chynnig datrysiadau.
Bagloriaeth Cymru
Her Gymunedol yw ein Bagloriaeth Cymru Sylfaenol sy’n canolbwyntio ar ddeall ac atal digartrefedd. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau cynllunio a threfnu tra’n cael eu hannog i nodi, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleoedd a fydd o fudd i’r gymuned.
Lawrlwytho Bagloriaeth Cymru Sylfaenol
Her Gymunedol yw ein Bagloriaeth Cymru Uwch sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau cynllunio a threfnu tra’n cael eu hannog i nodi, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleoedd a fydd o fudd i’r gymuned.
Gadael gofal a symud ymlaen
Mae’r llyfryn byr hwn wedi’i lunio i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i baratoi ar gyfer byw’n annibynnol am y tro cyntaf. Mae’n egluro rhai termau allweddol a ddefnyddir ym maes tai ac yn egluro’n syml iawn pa hawliau, a hefyd, pa gyfrifoldebau sydd gennych chi os ydych chi’n byw yn annibynnol.
Lawrlwytho’r llyfryn Gadael Gofal
Grŵp Cynghori ar Addysg
Ers ei sefydlu yn 2001, mae’r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn fel rheol ac yn parhau i gynghori a chefnogi gwaith Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru, Mae aelodau yn cynrychioli’r sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat ac mae ganddynt ddiddordeb mewn addysg gadael cartref ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, awgrymiadau neu os hoffech gael trafodaethau pellach ynghylch darparu neu ddosbarthu unrhyw un o’r adnoddau uchod, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Ymyrraeth Gynnar Shelter Cymru yn [email protected]. Rydyn ni wastad yn awyddus i gynorthwyo’r rhai sydd am leihau digartrefedd ymysg pobl ifanc yn y dyfodol a chydweithio â nhw.