
Ceri Breeze
Is-Gadeirydd
Mae e’n aelod o’r Bwrdd ers 2018. Ymddeolodd Ceri o Lywodraeth Cymru yn 2017 lle, fel uwch was sifil, bu’n arwain timau ym maes iechyd a thai, ac ymchwiliad cyhoeddus mawr. Bu’n gyfrifol am bolisïau cenedlaethol, rhaglenni mawr a datblygu deddfwriaeth newydd, gan weithio ar draws meysydd polisi gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a gydag adrannau Llywodraeth y DU. Mae e’ hefyd wedi gweithio’n helaeth gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac fel Cynghorydd Dros Dro i Sefydliad Iechyd y Byd. Yn ychwanegol at ei rôl ar y Bwrdd, mae Ceri yn fentor gwirfoddol i bobl ifanc i Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru, ac yn gweithio mewn swyddi ymgynghori ac ymchwil.