Cheryl Tracy

Cheryl Tracy

Ymddiriedolwr 

Mae Cheryl wedi gweithio yn y sector tai am y 12 mlynedd diwethaf, gan ddal amrywiaeth o swyddogaethau ar draws adfywio cymunedol, rheoli tai ac yn fwy diweddar gwella a thrawsnewid busnes. Ar hyn o bryd hi yw Pennaeth Gwella Busnes Cymdeithas Tai Sir Fynwy ac mae’n gyfrifol am arwain a chyflwyno rhaglen newid y gymdeithas.

Mae ganddi MA mewn Tai, mae’n Aelod Siartredig o’r CIH ac mae wedi dal swyddi anweithredol yn Valleys to Coast a CIH Futures yn y gorffennol. Mae hi’n credu’n llwyr bod cartref o safon yn hanfodol i fyw bywyd da ac mae’n gyffrous am ei rôl newydd gyda Shelter Cymru.

Tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau gofalu am ei jyngl dan do(!), cerdded ar hyd yr arfordir ac ymgolli mewn llyfr da.