
Daniel Millington
Ymddiriedolwr
Mae Dan yn byw ym Mangor, Gwynedd ac yn gweithio yng Nghaergybi, Ynys Môn. Mae ei weledigaeth ifanc, ei frwdfrydedd a’i uchelgais wedi rhoi llais iddo ar draws Gogledd Cymru wrth gefnogi pobl a chymunedau.
Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, mae’n dilyn gyrfa mewn rheoli prosiectau ac mae ganddo arbenigedd allweddol mewn mabwysiadu newid ar draws llwyfannau marchnata a chyfathrebu digidol. Mae Dan wedi gweithio yn y trydydd sector yn rheoli prosiect sy’n rhoi pobl mewn rheolaeth o’u cymunedau.
Mae ei ddiddordebau yn cynnwys archwilio daearyddiaeth a thirweddau naturiol Gogledd Cymru, cymdeithasu gyda ffrindiau a mwynhau peint bach digywilydd ar y penwythnos!