
Gareth Leech
Ymddiriedolwr
Mae Gareth yn byw yng Nghyffordd Llandudno ac yn gweithio i Cartrefi Conwy. Mae e’ wedi gweithio yno ers 2015 mewn swyddi sy’n ymwneud â rheoli perfformiad, risg, archwilio, diogelu data a’r holl bethau cyffrous eraill sydd gan Lywodraethu i’w cynnig! Ar hyn o bryd mae mewn rôl rheoli rhaglen yn cefnogi’r uwch dîm arwain gyda chyflawni prosiectau strategol. Mae’n Gadeirydd panel CIH Housing Futures Cymru ac yn aelod o fwrdd CIH Futures y DU gyfan. Mae Gareth hefyd yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, elusen fach sy’n cefnogi celfyddydau a diwylliant mewn cymunedau lleol.
Mae Gareth yn credu bod Shelter Cymru yn sefydliad sy’n cael effaith ac mae ef eisiau helpu i wneud gwahaniaeth. Mae’n cael ei ysgogi drwy edrych bob amser i wella’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud, ac mae e’’n chwilfrydig ac yn edrych am gyfleoedd i ddysgu drwy’r amser. Mae’n hoffi herio ffyrdd traddodiadol o wneud pethau a llywio meddylfryd gwelliant parhaus.
Y tu allan i’r gwaith, mae gan Gareth fab ifanc egnïol sy’n ei gadw ar flaenau ei draed gyda llawer o gemau o ysbïwr llygaid, chwarae reslo, a rhedeg o gwmpas yn gyffredinol. Pan mae Gareth yn cael ychydig o amser ychwanegol wedi’r cyfan hyn, mae’n ceisio dod o hyd i amser i chwarae golff, 5 bob ochr, beicio a chrwydro yn gyffredinol i weld y byd.