Janet Loudon

Janet Loudon

Cyd-bennaeth Gwasanaethau Tai

Mae gan Janet gyfrifoldeb ar y cyd am ddarparu ystod eang o wasanaethau a phrosiectau tai o fewn Shelter Cymru, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd targedau ansawdd, perfformiad a chyllidebol. Astudiodd ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds am dair blynedd ac mae ganddi BA (Anrh) mewn Datblygiad Trefol, gan arbenigo mewn Tai yn ei blwyddyn olaf.

Roedd Janet yn wirfoddolwr gyda swyddfa Shelter Cymru yn Wrecsam yn y 1990au cynnar ac aeth ymlaen i weithio i fudiad sector gwirfoddol yn Swydd Amwythig a oedd yn cynnwys sefydlu a chydlynu gwasanaeth cyngor tai, cynllun bond a chynllun cefnogi tenantiaeth, gan weithio’n bennaf o fewn y sector rhentu preifat. Dychwelodd i weithio i Shelter Cymru ym mis Mehefin 2001, fel Rheolwr Gwasanaethau Cynghori Rhanbarthol i ddechrau, a bellach fel Cyd-bennaeth Gwasanaethau Tai o fewn yr uwch dîm rheoli.

Mae Janet wedi cynrychioli Shelter Cymru ar amrywiaeth o fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac wedi bod yn strategol wrth ddatblygu ac ehangu gwasanaethau cynghori a phrosiectau arbenigol ledled Cymru.