
Jennie Bibbings
Pennaeth Ymgyrchoedd
Mae Jennie Bibbings wedi gweithio ym maes polisi cymdeithasol ers 2002, ar ôl bod yn uwch ohebydd mewn sawl papur newydd gan gynnwys y Wales on Sunday. Ers hynny mae hi wedi arwain ymgyrchoedd cyhoeddus llwyddiannus ar ddigartrefedd, diwygio tenantiaethau, hawliau tenantiaid preifat a chyflenwad tai cymdeithasol.
Mae hi wedi bod yn ymwneud yn agos â datblygu Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Fel Pennaeth Ymgyrchoedd yn Shelter Cymru mae’n arwain materion allanol yr elusen gan gynnwys lobïo, cyfathrebu, y cyfryngau, addysg, hyfforddiant, polisi ac ymchwil, a rheoli sylfaen cefnogwyr y cyhoedd.