
JJ Costello
Cyd-bennaeth Gwasanaethau Tai
Mae JJ wedi gweithio i Shelter Cymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain fel cynghorydd gwirfoddol, gweithiwr achos tai arbenigol, rheolwr gwasanaethau rhanbarthol, Pennaeth Strategaeth a Datblygu a nawr fel Cyd-bennaeth Gwasanaethau Tai.
Mae JJ yn aelod o Rwydwaith Cyngor Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac hynod gyfarwydd â darparu cyngor lles cymdeithasol. Fe ymgymrodd â secondiad gyda Llywodraeth Cymru, lle bu’n arwain ar ddatblygu rhwydweithiau cyngor rhanbarthol.
Mae ei ddiddordeb presennol yn cynnwys defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau’n well, cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a dulliau meddwl-systemol o ddarparu gwasanaethau.