Shelter Cymru away day at Kings Arms Hotel, Abergavenny, 7 October 2022. 

Picture by Mark Hawkins for Shelter Cymru.

Kerys Sheppard

Pennaeth Codi Arian

Ymunodd Kerys â’r Uwch Dîm Rheoli yn 2017 ac mae hi’n gyfrifol am godi arian a chynhyrchu incwm. Mae Kerys wedi gweithio yn y trydydd sector ar lefel uwch ers dros 17 mlynedd mewn elusennau o bob maint fel ymarferwr, hyfforddwr ac ymddiriedolwr.

Ar hyn o bryd yn Bennaeth Codi Arian yn Shelter Cymru, mae gan Kerys hefyd brofiad codi arian uniongyrchol yn y sectorau celfyddydol, ieuenctid, addysg a hosbis.

Mae Kerys yn Aelod o Fwrdd Sefydliad Siartredig Codi Arian a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Mae’n gwasanaethu ar Gyngor Ymgyrch Cofio Elusen (‘Remember a Charity’) ac yn Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Onnen.