
Meri Huws
Ymddiriedolwr
Ymunodd Meri â’r Bwrdd yn 2019. Arweiniodd ei gyrfa gynnar fel gweithiwr cymdeithasol cymunedol yng Ngogledd Cymru hi i addysg uwch, a gyrfa hir fel darlithydd cyfraith lles, pennaeth adrannau prifysgol amrywiol a chyfrifoldeb am ymgysylltu dinesig ac ehangu cyfranogiad ar lefel prifysgol uwch mewn dwy brifysgol yng Nghymru. Drwy gydol y cyfnod hwn ceisiodd Meri feithrin cysylltiadau gweithredol â darparwyr addysg bellach, cyrff trydydd sector a busnes. Mae llinellau cyfathrebu effeithiol ag unigolion, cymunedau, sefydliadau cyhoeddus a phreifat a chyrff cenedlaethol sy’n gweithredu ar lefel Cymru a’r DU wedi bod yn hollbwysig drwy gydol ei bywyd gwaith.
Penodwyd Meri yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg statudol yn 2004 ac yn 2012 fe’i penodwyd i rôl Comisiynydd y Gymraeg cyntaf, swydd statudol a ddaliodd tan 2019. Wrth geisio gweithredu fel rheolydd effeithiol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt, roedd ganddi ddiddordeb mawr yn ystod ei chyfnod fel Comisiynydd mewn sicrhau ymgysylltiad cadarnhaol â heriau a chyfleoedd bod yn wlad swyddogol ddwyieithog gyda phoblogaeth amlieithog.
Mae Meri yn aelod annibynnol o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru; ac yn aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Risg Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.