Miguela Gonzalez

Miguela Gonzalez

Ymddiriedolwr 

Mae Miguela yn arbenigwr diwylliant a chynhwysiant sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Abcam, cwmni biotechnoleg byd-eang. Treuliodd dros dau ddegawd yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn y celfyddydau a’r cyfryngau, ac mae’n gyn-newyddiadurwr yn y BBC, lle bu hefyd yn cyflawni rolau dadansoddi data, rheoli prosiectau ac arbenigedd pwnc. Yn ei rôl fel Arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC ar gyfer Gwledydd y DU, bu’n dylunio, rheoli prosiect a gweithredu’r ymgynghoriad helaeth a arweiniodd at strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 3 blynedd gyfredol y darlledwr.

Mae Miguel hefyd yn Gomisiynydd gyda Chomisiwn Annibynnol Llywodraeth Cymru ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac yn academydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Daw i’w rôl, fel ymddiriedolwr gyda Shelter Cymru, fewnwelediadau a gafwyd o brofiadau eang mewn nifer o bwyllgorau, cyrff llywodraethu, timau a phrosiectau, gan gynnwys cronfeydd arloesi, gosodiadau celf a gwyliau cerdd.