
Nuria Zolle
Ymddiriedolwr
Mae cefndir Nuria mewn trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae Nuria wedi gweithio yn y trydydd sector, llywodraeth leol ac wedi gweithio’n agos gyda llywodraeth ganolog a’r sector preifat, yn enwedig wrth fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae ganddi brofiad helaeth o arwain a rheoli strategol a darparu prosiectau a gwasanaethau ymarferol mewn cymunedau.
Mae Nuria yn gwneud gwaith ymchwil a pholisi llawrydd. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn aelod o Rwydwaith Cyngor Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru. Roedd hi hefyd yn aelod o Banel Cynghori’r Comisiynydd Plant; a Chyfarwyddwr National Energy Action Cymru, yn arwain ymgyrchoedd polisi ac yn rhoi prosiectau ymarferol ar waith i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Cyn hynny, bu Nuria yn arwain gwaith Gwrthdlodi/Cynhwysiant Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe.
Ganed Nuria yn Sbaen ac ymgartrefodd yn Abertawe ar ôl cyfarfod â’i phartner. Mae hi’n angerddol dros fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi. Mae hi’n eiriolwr cryf dros egwyddorion cydgynhyrchu, gweithio’n seiliedig ar asedau, meddwl drwy systemau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae ganddi hanes cryf o adeiladu clymbleidiau a phartneriaethau i sicrhau buddion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal ag ymgyrchoedd polisi cymdeithasol effeithiol.