
Rhian Edwards
Ymddiriedolwr
Mae Rhian yn Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Anweithredol profiadol . Dechreuodd gyrfa Rhian yn y Sector Gwasanaethau Ariannol, ond yn 2007, wrth symud i’r Sector Logisteg, ehangodd ei phrofiad. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Rhian brofiad strategol ac arweinyddol helaeth ar draws ystod o sefydliadau proffil uchel gan gefnogi llawer ohonynt gyda rhaglenni trawsnewid byd-eang.
Yn 2017 symudodd Rhian i weithio yn y sector elusennol fel Cyfarwyddwr Elusen Canser, lle bu’n gyfrifol am Ymchwil, Polisi, a Gwasanaethau Cymorth, a oedd yn cynnwys cyngor Lles Cymdeithasol. Mae gan Rhian brofiad o weithio gyda’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru a Lloegr) gan ymgyrchu’r Llywodraeth a phartneriaid eraill i ddylanwadu ar bolisi ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau. Ar hyn o bryd mae Rhian yn gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol Hospice of the Good Shepherd, yn Cadeirio Grŵp Cydweithredol Hosbis Swydd Gaer a Glannau Mersi, ac mae’n aelod o Fwrdd Cyflenwi a Goruchwylio Gofal Diwedd Oes a Gofal Lliniarol Swydd Gaer a Merswy.