
Sarah Bowen
Ymddiriedolwr
Sarah yw Cydlynydd Datblygu Amgueddfa Cymru a mae hi’n angerddol ynghylch eu ymrwymiad strategol newydd tuag at Cymru Gwrth-Hiliol, Cyfiawnder Hinsawdd, a Democratiaeth Diwylliannol.
Yn Ymddiriedolwr balch o Glwb Bocsio Amatur Tiger Bay sydd wedi ennill nifer o wobrau, mae Sarah yn eirioli ar ran eu haelodau a’r gymuned ehangach. Yn 2021 cafodd Sarah wahoddiad i helpu i lywio argymhellion ar gyfer Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cyngor Caerdydd, fel aelod o is-grŵp y Tasglu Cyfiawnder Troseddol gan eiriol yn erbyn anghydraddoldeb ar ran aelodau ifanc Tiger Bay ABC. Ar hyn o bryd mae Sarah yn arwain prosiect pum mlynedd gan y Swyddfa Gartref gyda ‘Citizens Cymru’ a phartneriaid cymunedol ar lawr gwlad i leihau Troseddau Cyllyll a Thrais Ieuenctid, drwy’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid ar gyfer Butetown a Grangetown.
Gyda phrofiad byw o drais domestig, digartrefedd a’r effaith a gaiff hyn ar iechyd meddwl, mae Sarah yn gobeithio y bydd ei phrofiadau anodd yn ychwanegu persbectif gwerthfawr i Shelter Cymru, a lleihau’r stigma a gysylltir â digartrefedd. Mae Sarah yn treulio y rhan fwyaf o’i hamser sbâr gyda’i phedwar plentyn, yn gwylio chwaraeon a ffilmiau Scorsese.