Gwirfoddoli gyda ni

Hoffech chi helpu gyda chasgliad bwced yn eich archfarchnad leol? Neu gefnogi rhedwyr Tîm Shelter Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd? Rydym yn ddiolchgar iawn i’n gwirfoddolwyr gwych, sy’n cefnogi’r frwydr dros gartref ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sydd angen cartref ledled Cymru. Rydym yn bodoli er mwyn amddiffyn yr hawl i gael cartref diogel, ond allwn ni ddim gwneud hynny hebddoch chi. Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch argaeledd, mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli sy’n addas ar eich cyfer.

Cyfleoedd presennol

Bucket collection with Shelter Cymru

Casgliadau bwced

Mae ein tîm Codi Arian yn trefnu casgliadau bwced mewn archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ledled Cymru yn rheolaidd. Mae’r rhain yn werthfawr iawn ar gyfer casglu arian, yn ogystal â mynd allan i’n cymunedau lleol i ledaenu’r neges am ein brwydr dros gartref. Os gallech roi ychydig o oriau i’n helpu â chasgliad bwced, hoffem glywed gennych.

E-bostiwch: [email protected] 

Dydd Iau 26 Hydref, Wrecsam
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, Wrecsam
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd, Caerdydd
Dydd Gwener 6 Rhagfyr, Y Rhyl
Dydd Iau 7 Rhagfyr, Wrecsam
Dydd Gwener 15 Rhagfyr, Bangor
Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr, Wrecsam

Volunteer at an event with Shelter Cymru

Cynorthwywyr digwyddiadau

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill eleni. Efallai yr hoffech helpu i ddosbarthu pice ar y maen i feicwyr yn ein Castles & Cathedrals MONSTER RIDE. Neu ymuno â ni mewn man cefnogi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Os ydych chi’n mwynhau awyrgylch digwyddiadau, byddai’n wych petaech yn ymuno â ni. Dyma rai cyfleoedd sydd gennym ar y gweill yn fuan.

E-bostiwch: [email protected] 

Dydd Sadwrn 21 Hydref, Thank You For The Music, Casnewydd
Dydd Sadwrn 28 Hydref, Marathon Eryri
Dydd Gwener 3 Tachwedd, 80s Live, Casnewydd
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, Makings Of A Murderer, Casnewydd
Dydd Sul 3 – dydd Sadwrn 23 Rhagfyr, Gŵyl Nadolig Caerdydd
Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr, Don’t Stop Believin’, Casnewydd

Volunteer with Take Notice at Shelter Cymru

Daliwch Sylw

A oes gennych brofiad uniongyrchol o ddigartrefedd? Os felly, byddai ein tîm Daliwch Sylw yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr iawn. Mae Daliwch Sylw yn brosiect sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, gyda’r nod o wella gwasanaethau tai a digartrefedd ledled Cymru. Rydym am roi llais i’r bobl hynny sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd neu dai. Cysylltwch â ni os byddech yn gyfforddus i rannu eich profiadau er mwyn ein helpu i newid y system er gwell.

E-bostiwch y Cydlynydd Profiadau Uniongyrchol Jane Ellis: [email protected]

Volunteer with Shelter Cymru's Pathways Programme

Rhaglen Llwybrau

Mae gwasanaeth ffôn, e-bost a gwe-sgwrs Shelter Cymru – Shelter Cymru Fyw – yn hanfodol o ran galluogi pobl i frwydro dros gartref ac rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n hachos. Bwriad y rhaglen hon yw eich hyfforddi hyd at lefel cyflogaeth wrth ymgymryd â’ch rôl wirfoddol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o’n tîm Cynghori ac yn cael hyfforddiant a mentoriaeth i’ch helpu i wneud cais am gyfleoedd swyddi yn y dyfodol.

Ewch i’r dudalen Rhaglen Llwybrau Gwirfoddoli i gael rhagor o wybodaeth.

Holly and her daughter Ola volunteering at a bucket collection at Asda in Pentwyn, Cardiff

Holly a’i merch Ola yn gwirfoddoli mewn casgliad bwced yn Asda ym Mhentwyn, Caerdydd

Shelter_Cymru_Symbol_RGB_Red_AW

Mae'r frwydr dros gartref yn dechrau yma

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o amrywiol gefndiroedd. Rydym yn ymrwymedig i amrywiaeth ac rydym yn benodol yn gwerthfawrogi gwybodaeth a phrofiad gwirfoddolwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd ac mewn angen tai. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chofnodion troseddol, statws ffoadur, neu ganiatâd eithriadol i aros yn y DU.  Mae’n rhaid i bob gwirfoddolwr fod yn 18 oed neu drosodd.

Rydym yn gwerthfawrogi bod amser pawb yn werthfawr ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw amser y gallwch ei roi. Mae’r rhan fwyaf o’n rolau gwirfoddoli yn hyblyg a bydd faint o amser y byddwch yn ei roi yn dibynnu ar beth sy’n gweithio orau i chi a’r tîm y byddwch yn ymuno ag ef. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr untro a rheolaidd.

Na fydd. Rydym yn ad-dalu gwirfoddolwyr am dreuliau fel treuliau teithio. Nid yw gwirfoddoli yn effeithio ar eich budd-daliadau.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a magu profiad, wrth gefnogi ein brwydr dros gartref drwy helpu pobl sydd mewn angen tai ledled Cymru.