Hyfforddiant a Digwyddiadau
Mae Shelter Cymru yn darparu hyfforddiant i bobl proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau mewn atal digartrefedd a gwella amodau tai yng Nghymru.
Yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant, rydym hefyd yn cynnal cynadleddau a seminarau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â materion tai allweddol, cyfredol a newidiadau sylweddol mewn cyfraith ac arfer tai.
Mae Shelter Cymru yn ddarparwr cyrsiau awdurdodedig o Gynlluniau Datblygu Proffesiynol Parhaol Cymdeithas y Gyfraith a Chyngor y Bar, a’r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol
Os hoffech mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau, neu os hoffech drafod unrhyw gyfleodd i noddi, yna cysylltwch â’n tîm hyfforddi ar 01792 469400 neu ebostiwch [email protected].
Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, yn rhoi gorolwg o Ddeddfwriaeth Digartrefedd Cymru.
Pori drwy’r cyrsiau
Porwch drwy’n cyrsiau hyfforddiant safonol i bobl proffesiynol sy’n cynnig gwasnaethau i atal digartrefedd a gwella amodau tai yng Nghymru.
Hyfforddiant Mewnol
Gall cyrsiau gael eu cynllunio yn unol â faint o amser sydd gennych, o gyrsiau hanner diwrnod i gyrsiau tri diwrnod ac rydym yn hyblyg o ran y dyddiadau a’r lleoliadau sy’n gyfleus i chi.
Digwyddiadau
Cewch glywed am y digwyddiadau a’r datblygiadau diweddaraf am dai, digartrefedd a budd-daliadau yng nghynadleddau a seminarau Shelter Cymru.
Cwestiynau Cyffredin
Gofynnir cwestiynau i ni yn aml am ein hyfforddiant a’n digwyddiadau, felly rydym wedi creu restr o rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin i’ch helpu.
Cynllunio ac Archebu
Un wrth un, gall aelod o staff roi mwy o wybodaeth a gweithio gyda chi i benderfynu beth yw’r hyfforddiant gorau i chi.
Cysylltwch
Os oes angen gwybodaeth pellach ar ein cyrsiau hyfforddiant neu os hoffech drafod cyfleodd hyfforddiant mewnol, yna cysylltwch.
Cyllido’n dda – Byw’n dda
Gall Eithrio Ariannol esgor ar bobl yn colli eu hannibyniaeth, dioddef amodau byw sy’n gwaethygu, disgyn i ddyled a hyd yn oed golli cartref.
Mae gweithio i helpu pobl reoli eu harian a chael cymorth yn rhan sylfaenol o atal digartrefedd. Mae’r seminar hwn yn anelu at danlinellu arfer da cyfredol, darparu syniadau newydd i ymgynghorwyr a chynnig cyfle i fynychwyr greu partneriaethau newydd a fydd o fudd i bawb.
Mae Shelter Cymru yn ddarparwr cyrsiau awdurdodedig o Gynlluniau Datblygu Proffesiynol Parhaol Cymdeithas y Gyfraith a Chyngor y Bar, a’r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol. Dangosir y pwyntiau CPD ar gyfer pob cwrs yn y disgrifiad cwrs.