Hyfforddiant a Digwyddiadau
Mae Shelter Cymru yn darparu hyfforddiant i bobl proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau mewn atal digartrefedd a gwella amodau tai yng Nghymru.
Yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant, rydym hefyd yn cynnal cynadleddau a seminarau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â materion tai allweddol, cyfredol a newidiadau sylweddol mewn cyfraith ac arfer tai.
Mae Shelter Cymru yn ddarparwr cyrsiau awdurdodedig o Gynlluniau Datblygu Proffesiynol Parhaol Cymdeithas y Gyfraith a Chyngor y Bar, a’r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol
Os hoffech mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau, neu os hoffech drafod unrhyw gyfleodd i noddi, yna cysylltwch â’n tîm hyfforddi ar 01792 469400 neu ebostiwch [email protected].
Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, yn rhoi gorolwg o Ddeddfwriaeth Digartrefedd Cymru.