Mae Grŵp Ymgynghori Addysg Shelter Cymru a phobl ifanc yn eich gwahodd i fynychu ein digwyddiad: Symud lan – pontio positif i fywyd ar 20 Gorffennaf 2016 ym Mae Caerdydd.
Mae’r digwyddiad rhyngweithiol yn darparu cyflwyniadau a gweithdai i ddangos:
- Darpariaeth addysg gadael cartref cadarnhaol a chyfredol
- Enghreifftiau o arfer da ledled Cymru, y DU yn ehangach, a gweddill Ewrop
- Sut gall pobl ifanc leisio’u barn am faterion tai
Bydd hwyl yn rhan annatod o’r dydd gyda sesiynau ac adloniant, gan gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau celfyddydol. Byddwn hefyd yn cynnal gweithdai gwella sgiliau a chyfleoedd newydd i addysgu pobl ifanc, fel sesiynau rheoli arian, rhannu – tŷ ac ymweldiad â’r Senedd.