Hanes Shelter Cymru

Pan ddechreuodd Shyelter Cymru ym 1981 doedd braidd dim cyngor arbenigol ar dai ar gael i bobl yng Nghymru ac fe anwybyddwyd problemau digartrefedd gan fwyaf, neu ni roddwyd cydnabyddiaeth llawn iddynt.

Sefydlwyd Shelter yn Lloegr ym 1966 gan grŵp o elusennau mewn ymateb i’r hyn a welwyd ar y pryd fel problem gynyddol, ond eto problem a oedd yn cael ei anwybyddu, sef digartrefedd.

Cathy Come Home

1966 oedd y flwyddyn hefyd y darlledwyd ffilm Ken Loach gan y BBC am ddigartrefedd, Cathy Come Home. Cafodd ei gwylio gan 12 miliwn o bobl ar y darllediad cyntaf ac fe wnaeth y ffilm godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, y cyfryngau a’r llywodraeth i raddfa’r argyfwng tai, a chafodd Shelter nifer o gefnogwyr newydd.

Shelter Cymru

Sefydlwyd Shelter Cymru ym 1981(a oedd yn gweithredu bryd hynny fel Welsh Housing Aid) fel rhan o Shelter, ond fe ddaweth yn elusen annibynnol ym 1986, ac mae Shelter Cymru wedi ymateb i a dylanwadu ar faterion tai yng Nghymru byth ers hynny.

Ers ein sefydlu, er gwaetha’r ffaith bod Prydain wedi mynd drwy gyfnod hir o gyfoeth a thwf economaidd, mae anghenion tai a digartrefedd wedi parhau. Mae difaterwch wedi caniatau i’r mater hanfodol o bobl a thai i lithro lawr yr agenda cyhoeddus a gwleidyddol.

Camau ymlaen

Mae dros dri degawd o lobio parhaus wedi perswadio llywodraethau i wneud newidiadau allweddol i bolisi a deddfwriaeth, a rydym wedi dathlu ambell lwyddiant pwysig yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys dylanwadu ar Deddf Tai (Cymru) 2014 gydag ymrwymiad i ddileu digartrefedd teuluol erbyn 2019 a dull newydd dinesydd-ganolog wrth gyflwyno gwasanaethau digartrefedd.

Gwaith i’w wneud o hyd

Tai yw’r prif ffactor wrth bennu iechyd, lles a rhagolygon person mewn bywyd. Yn y tri degawd diwethaf, mae Shelter Cymru wedi gweithio i helpu cynifer o bobl â phosib sydd yn byw mewn tai gwael neu sydd heb gartref o gwbl, ond mae llawer eto i’w wneud.

Mae slyms y 60au wedi mynd, ond mae’r argyfwng tai yn parhau. Mae nifer o denantiaid sy’n rhentu yn y sector preifat yn dal heb sicrwydd tenantiaeth i’r dyfodol a does ganddynt ddim amddiffyniad rhag landlordiaid gwael a ffioedd anghyfreithlon gan asiantaethau gosod, tra amcangyfrifir bod dros 60,000 o aelwydydd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol. Mae Shelter Cymru wedi cyflawni pethau gwych yn ystod ei hanes, ond ni fydd ein gwaith yn gorffen tan bod gan bawb gartref.