Elusen pobl a thai yng Nghymru

Mae Shelter Cymru yn dymuno gweld pawb yng Nghymru yn byw mewn cartref gweddus. Credwn fod cartref yn hawl sylfaenol ac yn hanfodol i iechyd a lles pobl a chymunedau.

Rydym yn gweithio dros pobl mewn angen tai ar draws Cymru ac yn atal pobl rhag colli eu cartrefi drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol am ddim. Pan fo angen rydym yn herio’n adeiladol ar ran pobl i sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo’n iawn, ac i wella arferion a dysgu.

Rydym yn gweithio gyda phobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau fel pobl gyfartal. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i helpu pobl i adnabod y dewisiadau gorau i ddod o hyd i, a chadw, cartref a’u cynorthwyo i gymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain.

Rydym yn cynghori

Rydym yn darparu cyngor ar dai mewn lleoliadau cymunedol ar draws Cymru. Ewch i’n tudalen ‘Get Advice’ am wybodaeth am leoliadau ac amseroedd y sesiynau cyngor ar dai yn eich ardal neu ebostiwch ni gyda phroblem / ymholiad tai. Os oes gennych broblem tai brys gallwch gysylltu â’n Gwasanaethau Cyngor a Chefnogaeth ar 08000 495 495

Rydym yn cynrychioli

Mae ein  tîm o gyfreithwyr yn cynnig cyngor cyfreithiol arbenigol, yn helpu i ymladd yn erbyn adfeddiannu a dadgartrefu, a gallant fynychu’r llys i amddiffyn pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref. Gallant herio penderfyniadau digartrefedd awdurdodau lleol, a chamu i’r adwy pan fo cynghorau ddim yn gwneud digon i gefnogi y rhai hynny sydd mewn angen tai. Maen nhw hefyd yn amddiffyn tenantiaid drwy helpu i fynd ar ôl landlordiaid lle mae cyflwr y cartref yn creu bygythiad difrifol o niwed neu mewn achosion o ddadgartrefu anghyfreithlon.

Rydym yn ymgyrchu

Mae Shelter Cymru yn ymgyrchu am ffyrdd newydd o ddileu digartrefedd ac angen tai, newidiadau i ddedfwriaeth, a pholisiau ac ac aferion a fydd yn gwella sefyllfaoedd tai hir dymor a digartrefedd a wynebir gan filoedd o bobl yng Nghymru.

Ewch i’r adran Polisi am fwy o wybodaeth am ein gwaith polisi a’r ymchwil rydym yn ei wneud. Mae gan y llyfrgell adnoddau gopïau am ddim o’n holl gyhoeddiadau ac adroddiadau.