Strategaeth 2025

Rydym ni’n brwydro dros yr hawl i gartref diogel a fforddiadwy o ansawdd da.

Yn Shelter Cymru, mae pobl wedi bod wrth galon popeth a wnawn a bydd ein cred sylfaenol bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gartref diogel o ansawdd boddhaol yn parhau i sbarduno ein gwaith.

Dros y 5 mlynedd nesaf byddwn ni’n:

Helpu mwy o bobl i ddod o hyd i atebion hirdymor

Rydym ni eisiau helpu mwy o bobl sy’n profi neu’n wynebu digartrefedd, neu’n byw mewn cartrefi anaddas, i ddod o hyd i atebion hirdymor i’w problemau; a chasglu data o ansawdd fel y gallwn barhau i wella a mynd i’r afael â’r problemau sydd wrth wraidd y galw am ein gwasanaethau.

RS31674_CHRIS_STEMP_074-©-SHELTER_-Alexandra-SmartCOPY-2-original-scaled-800x400

Brwydro dros gartrefi da

‘Cartref da’ yw cartref diogel a fforddiadwy o ansawdd da. Rydym ni eisiau cymdeithas lle mae pobl sydd angen cymorth i ddod o hyd i gartref a’i gadw yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fyddan nhw ei angen. Rydym ni eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd ac ofn digartrefedd. Bydd ein gwaith polisi, ymchwil, ymgyrchu a lobïo yn canolbwyntio ar wreiddiau’r angen, ar sail tystiolaeth ein gwaith achos, gan gydnabod bod cartref, fel sylfaen i fywydau personol, cymdeithasol ac economaidd pobl a’u hiechyd a’u lles, yn sail i’r cyfan.

RS36849_379A3139-lpr-800x400

Meithrin ein cadernid a’n gallu i gyflawni ein hamcanion strategol craidd

Rydym ni eisiau meithrin sefydliad cadarn a chynaliadwy sydd bob amser yn dysgu ac yn addasu i amgylchedd sy’n newid; lle mae ein staff, a’r bobl rydym ni’n bodoli i’w gwasanaethu, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso.

IMG_0490-scaled-800x400