Sut alla i gymryd rhan?
Os ydych yn ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
- Ydych chi ‘n bersonol wedi profi digartrefedd?
- A ydych wedi mynd at wasanaeth sy’n darparu cymorth digartrefedd i gael help?
- Ydych chi’n barod i rannu’ch profiad o ddigartrefedd?
- Ydych chi am fod yn rhan o newid cadarnhaol mewn gwasanaethau digartrefedd?
- A allwch ein helpu i addysgu cymunedau am ddigartrefedd a sut y gall ddigwydd i unrhyw un?
- Ydych chi am achub ar y cyfle i wella’ch sgiliau presennol a datblygu rhai newydd?
- Ydych chi eisiau rhannu eich profiad, p’un a yw’n dda neu’n eisiau, yn rhywbeth cadarnhaol i bobl eraill?
Cyfranogwyr Daliwch Sylw yw’r grym y tu ôl i’r prosiect ac maent yn siapio a dylunio’r prosiect ei hun wrth iddo esblygu.
Tudalennau eraill Daliwch Sylw
Sut all fy sefydliad gymryd rhan?
Rydym eisiau helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn o fewn gwasanaethau tai a digartrefedd yng Nghymru, ond dim ond os yw sefydliadau perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd y gallwn gyflawni hyn. Os ydych chi’n rhan o sefydliad a hoffai weithio gyda ni, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Rydym yn bwriadu gweithio’n adeiladol a chydweithredol gyda darparwyr gwasanaeth a grwpiau cymunedol mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- Cefnogfi darparwyr tai i ddeall anghenion eu cwsmeriaid yn well a defnyddio profiadau personol pobl ym maes tai i godi safonau gwasanaeth
- Hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n canolbwyntio ar atebion mewn gwasanaethau tai a digartrefedd
- Asesu tegwch a chysondeb gwasanaethau ledled Cymru
- Addysgu’r gymuned ehangach i fynd i’r afael â stereoteipiau niweidiol a chamdybiaethau o sut mae pobl yn dod yn ddigartref.
Cysylltwch â ni
Carey Hill
Swyddog Daliwch Sylw
25 Heol Walter
Abertawe, SA1 5NN
Tel: 01792 483074
Mob: 07966 805949
careyh@sheltercymru.org.uk