Mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu Blwyddyn Newydd ddiflas wrth iddynt ddelio gyda dyled ar ôl cyfnod y Nadolig. Bydd 3 o bob 10 person yng Nghymru sy’n talu rhent neu forgais yn torri nôl ar hanfodion y gaeaf yn cynnwys gwres a dillad er mwyn medru talu am do uwch eu pennau. Ac mae 1 o bob 10 o aelwydydd yn gofidio am fforddio taliadau rhent neu forgais ar gyfer mis Ionawr
Mae Shelter Cymru yn erfyn ar bobol sydd mewn trafferthion ariannol ar ôl y Nadolig i gysylltu â’u gwasanaethau nhw am gyngor arbenigol er mwyn osgoi colli eu cartref. Os yw pobol yn poeni am sut y byddan nhw yn medru talu am gostau byw neu yn ei chael hi’n anodd talu’r rhent neu’r morgais, fe all Shelter Cymru helpu. Mae’n hanfodol bod y bobol hyn yn cael cymorth cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi digartrefedd.
Helpodd Shelter Cymru bron I 16,000 o bobol y llynedd a arweiniodd at ddelio gyda dros 25,000 o broblemau perthnasol. Mewn 93% o’r achosion hyn fe lwyddodd Shelter Cymru I osgoi digartrefedd – y nifer uchaf erioed i’e elusen.
Gall Shelter Cymru helpu gyda theuluoedd sydd mewn dyled. Yn 2015 fe helpodd ein gwasanaeth cyngor ar ddyled bron i fil o aelwydydd, ac fe ddelion ni gyda dros £18 miliwn o ddyledion. Darparwyd hyn gan ein gwasanaethau arbenigol ar ddyled, cyngor budd-daliadau a chefnogaeth.
Dywed Michelle Wales, Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru “ Yr adeg yma o’r flwyddyn rydym yn dod ar draws cymaint o deuluoedd yng Nghymru sydd yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd ond mae Shelter Cymru yma i helpu ac I gynnig cyngor. Does dim cywilydd mewn gofyn am gymorth. Does dim rhaid i neb wynebu’r trafferthion hyn ar eu pen eu hunain.
Mae ein gwasanaeth cynghori ar ddyled yn gweithio’n agos gyda phartneriaethau ar draws Cymru. Os ydych angen cymorth, cysylltwch â Shelter Cymru ar 0345 0755005 neu ewch i’n gwefan sheltercymru.org.uk am gyngor arlein.