Sut gall plentyn fod yn ddigartref ‘yn fwriadol’?
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd gwych o ran atal digartrefedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n bryd cymryd y cam nesaf.
Dychmygwch y math o aflonyddwch y mae digartrefedd yn ei achosi i fywyd plentyn.
Ansicrwydd, pryder, gorfod symud tŷ dro ar ôl tro, efallai’n gorfod symud ysgolion a cholli ffrindiau, wrth i’ch teulu geisio ailsefydlu ei hun.
Dyma’r realiti ar gyfer llawer o deuluoedd y mae’r Cyngor yn gwrthod rhoi help iddyn nhw oherwydd eu bod nhw wedi cael eu barnu’n ‘ddigartref yn fwriadol’.
Felly mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gymorth eu hunain trwy ffrindiau a theulu, neu unrhyw dŷ rhent preifat y gallant ddod o hyd iddo. Mae’n debygol na fydd anghenion cymorth y teulu yn cael eu bodloni. Nid yw’n debygol y byddant yn cael llety sefydlog, parhaol.
Mae Cymru eisoes wedi gwneud newidiadau mawr i’r gyfraith ar ddigartrefedd. Heddiw, mae cynghorau’n helpu llawer mwy o bobl i fynd i’r afael â digartrefedd.
Ond mae’r man gwan yn y gyfraith yn golygu bod mwy na 130 o blant yng Nghymru, bob blwyddyn – sy’n cyfateb i fwy na phum ystafell ddosbarth – yn cael eu gadael yn ddigartref, yn llythrennol, heb help.
Heddiw, rydym yn galw ar gynghorau lleol i gael gwared ar y ddihangfa hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod rhaid dod â digartrefedd bwriadol i blant i ben – mae wedi rhoi hyd at 2019 i gynghorau newid y sefyllfa. Gallai cynghorau ddod ag ef i ben nawr, petaent eisiau gwneud hynny. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dweud eu bod nhw eisiau cadw opsiwn – neu fygythiad – y prawf bwriadoldeb.
Ond er gwaethaf hyn, prin iawn y mae cynghorau’n ei ddefnyddio. Mae penderfyniadau o ddigartrefedd bwriadol wedi gostwng 65 y cant y llynedd. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod pa mor aml y caiff ei ddefnyddio fel bygythiad, ac nid ydym yn gwybod faint o deuluoedd sy’n teimlo’n annifyr ynghylch ceisio help o’i herwydd.
Mae’r prawf digartrefedd bwriadol yn rhan o Gyfraith y Tlodion, nad yw’n addas ar gyfer y byd modern. Mae awdurdodau lleol wedi dangos y gallant weithredu hebddi.
Petaent yn cael gwared ar fwriadoldeb ar gyfer cartrefi â phlant yfory, gallem arbed 400 o blant rhag digartrefedd erbyn 2019.
Ni ddylai unrhyw blentyn orfod bod yn ddigartref
Darllenwch yr astudiaethau achos hyn I ddysgu mwy am ddigartrefedd bwriadol.
Rhoi terfyn ar ddigartrefedd plant.
Dyma dair gweithred y gallwch eu gwneud i’n helpu ni i roi terfyn ar ddigartrefedd plant yng Nghymru.
- Rhowch eich cefnogaeth i’r ymgyrch Bwriad i Weithred i roi terfyn ar ddigartrefedd bwriadol i blant yng Nghymru
- Lledaenwch y gair ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #bwriadiweithred
- Trydarwch am hyn a tagiwch eich cyngor lleol:
Dyw plant ddim yn gwneud eu hunain yn fwriadol ddigartref – rhowch derfyn ar hyn heddiw, achubwch 400 o blant erbyn 2019 #bwriadiweithred
Rhowch derfyn ar ddigartrefedd bwriadol i blant yng Nghymru nawr #bwriadiweithred
Pam aros tan 2019? Rhowch derfyn ar ddigartrefed bwriadol i blant heddiw ac achubwch 400 o blant #bwriadiweithred
Beth yw digartrefedd bwriadol?
Yn ôl y gyfraith, mae unigolyn yn ddigartref yn fwriadol os yw’n ‘fwriadol yn gwneud neu’n methu gwneud rhywbeth’, sy’n arwain atynt yn colli cartref y gallent fyw ynddo yn rhesymol.
Mae enghreifftiau o weithrediadau bwriadol yn cynnwys rhoi’r gorau i lety fforddiadwy, neu methu â thalu rhent mewn ffordd ‘barhaus a bwriadol’.
Mae arweiniad y llywodaeth yn dweud y dylai cynghorau fod yn ofalus wrth ystyried bwriadoldeb ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, rhag ofn bod eu digartrefedd yn cael ei achosi gan angen cymorth na chaiff ei fodloni. Mae’r arweiniad yn rhoi enghreifftiau o sefyllfaoedd lle efallai na fernir bod digartrefedd unigolyn yn fwriadol: mae’r rhain yn cynnwys perthynas yn dod i ben, a dianc bygythiadau o drais.
Darllenwch ein hastudiaethau achos i bederfynu drosoch eich hun pa mor deg y caiff y gyfraith ei rhoi ar gwaith ar hyn o bryd.