Stori Gemma
Roedd Gemma yn feichiog pan fu rhaid iddi ddianc o’i chartref rhentu preifat oherwydd bygythiadau o drais tuag ati a’i theulu. Cysylltodd â’r Cyngor i gael ei hailgartrefu ond, gan nad oedd Gemma wedi sôn am y bygythiadau i’r heddlu, oherwydd ei bod hi’n ofni dial, fe’i barnwyd yn ddigartref yn fwriadol.
O ganlyniad, bu rhaid i Gemma adael ei llety dros dro, ac roedd yn cysgu ar soffas ffrindiau pan roddodd enedigaeth i’w merch.
Yn y pen draw, llwyddodd Gemma i apelio’n llwyddiannus yn erbyn penderfyniad y Cyngor. Fodd bynnag, fe wnaeth straen a phryder y misoedd blaenorol – gan gynnwys y ffaith y treuliodd fisoedd cyntaf bywyd ei merch fach mewn llety anaddas – gael effaith barhaol ar ei hiechyd meddwl.
Stori Angie
Roedd Angie yn wynebu rhent anfforddiadwy pan wnaeth ei phartner ei gadael hi a’i dau o blant. Gan nad oedd unrhyw ffordd y gallai fforddio’r rhent ar ei phen ei hun, fe wnaeth y peth cyfrifol, yn ei barn hi, a rhoi rhybudd gadael i’w landlord cyn iddi fynd i ôl-ddyledion difrifol.
I ddechrau, rhoddodd yr awdurdod lleol hi mewn llety dros dro, ond wedyn, fe wnaethant benderfynu, gan fod Angie wedi rhoi’r gorau i’w chartref yn fwriadol, yr oedd wedi gwneud ei hun yn ddigartref yn fwriadol.
Roedd Angie a’i phlant, y ddau yn iau na 10 oed, wedi cael cynnig tenantiaeth newydd mewn tai cymdeithasol ond, oherwydd y dyfarniad bwriadoldeb, bu rhaid tynnu’r cynnig hwn yn ôl. Ar adeg ysgrifennu’r darn hwn, roedd Angie a’r plant yn rhannu un ystafell wely mewn fflat dwy ystafell wely ei mam, wrth iddyn nhw aros am adolygiad o benderfyniad yr awdurdod lleol. Dywedodd Angie fod byw fel hyn yn heriol ac anhrefnus, a bod pob diwrnod yn mynd yn anoddach.
Stori Eli
Roedd gan Eli a’i phartner fabi newydd ei eni pan wnaethant symud i fflat rhentu preifat yng nghanolbarth Cymru. Yn fuan, fe wnaethon nhw sylweddoli bod y fflat mewn cyflwr gwael: ‘Roedd lleithder dros y waliau i gyd,’ meddai, ‘ac mi roedd hi’n oer iawn yno. Roeddem yn ffonio’r landlord yn gyson, ond ni ddaeth i’n gweld ni.’
Fe wnaeth byw o dan yr amodau hyn effeithio ar iechyd y babi. ‘Roedd y babi’n sâl drwy’r amser gyda heintiau ar y frest a pheswch,’ meddai Eli. ‘Roedd rhaid i ni adael.’
Mewn anobaith, mi wnaeth Eli a’i phartner symud allan. Fe wnaeth iechyd y babi wella ar unwaith. Ond pan aeth Eli at y Cyngor i ofyn iddyn nhw eu helpu i ddod o hyd i rywle arall i fyw, dywedwyd wrthynt am fynd yn ôl i’r fflat.
‘Dywedodd y Cyngor ein bod wedi ymddwyn yn anghyfrifol wrth adael y tŷ heb gynllun gyda babi, ‘ meddai Eli, a oedd yn 18 oed ar y pryd. ‘Ond y cyfan yr oeddem ni’n ei wybod oedd bod y babi bob amser yn sâl yn y tŷ hwnnw ac, ers hynny, mae’r babi wedi bod yn iawn.
‘Roedden nhw’n gwneud i ni deimlo ein bod ni’n ceisio eu twyllo nhw i gael tŷ cyngor, ond doedden ni ddim yn gwneud hynny. Roedd y sefyllfa’n ddidrugaredd.’