Coronafeirws : cyngor i bobl ifanc
Mae pobl ifanc yng Nghymru wedi gorfod gwneud newidiadau mawr i’w bywyd oherwydd coronafeirws.
Mae’n iawn i deimlo’n ofnus ac i boeni am y newidiadau hyn a sut y gallent effeithio ar dy sefyllfa dai.
Mae yna lawer o help a chefnogaeth ar gael o hyd – rydym wedi nodi manylion sefydliadau cenedlaethol a all dy helpu isod.
I weld y cyngor diweddaraf ar coronafeirws gan Lywodraeth Cymru cer at Llyw.Cymru
Os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel gartref, mae’n rhaid i ti gael help.
Ffonia Childline ar 0800 1111 neu ffonia 999 os wyt mewn pergyl uniongyrchol. Gall yr heddlu ddod i dy gartref o hyd.
Mae’n bwysig dy fod yn parhau i dalu dy rhent os yn bosib.
Os wyt yn ei chael yn anodd i dalu, cysyllta â dy landlord cyn gynted â phosib ac edrycha ar ein cyngor i weld pa help sydd ar gael i rhoi trefn ar dy arian.
Darganfod Mwy
- Bydd dy gyngor lleol dal yn gallu dy helpu.
- Yn ddibynnol ar dy sefyllfa, efallai bydd y cyngor yn gallu dy atal rhag dod yn ddigartref, neu, os bydd yn angenrheidiol, dod o hyd i rywle i ti aros a bod yn ddiogel.
- Cysyllta gyda’r adran dai yn dy gyngor lleol cyn gynted â phosib a gofyn i wneud cais digartrefedd.
- Os wyt yn ansicr o ba gyngor a ddylai dy helpu, fe allu di wirio yma.
- Os yw’r cyngor yn dweud nad ydyn nhw’n gallu dy weld wyneb yn wyneb yna dylent allu cymryd dy gais dros y ffôn.
- Os wyt ti’n syrffio soffa gall fod yn anodd i ti ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol ac aros gartref.
- Er bod gennyt do uwch dy ben rwyt dal yn cael dy ystyried yn ddigartref a dylai’r cyngor lleol fod yn gallu dy helpu.
- Cysyllta â’r cyngor a gofyn i wneud cais digartrefedd.
- Os oes gen ti angen blaenoriaethol yna dylai’r cyngor ddarparu llety brys addas i ti er mwyn i ti aros yn ddiogel yn ystod y pandemig.
- Mae nifer o bobl yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd gan eu bod wedi colli eu swyddi neu mae eu hincwm wedi gostwng yn sylweddol oherwydd y pandemig. Efallai yr oeddet ar gontract dim oriau a / neu mae busnes dy gyflogwr wedi cau.
- Paid a chladdu dy ben yn y tywod. Mae dal rhaid i ti dalu rhent yn ystod y pandemig. Os na, efallai y byddi yn cael dy ddadgrtrefu ar ôl iddo ddod i ben.
- Os wyt yn cael problem i dalu, cysyllta gyda dy landlord cyn gynted â phosib.
- Efallai y bydd dy landlord yn cydymdeimlo gyda dy sefyllfa ac efallai y bydd yn cytuno i daliadau hwyr neu i ostwng dy rhent am gyfnod.
- Gwna’n siwr bod unrhyw gytundeb yr wyt yn gwneud â’r landlord yn cael ei ysgrifennu (mae neges destun neu ebost yn iawn).
- Os wyt yn derbyn budd-daliadau, gwna’n siŵr dy fod yn cael popeth y mae gennyt hawl iddo. Os wyt yn derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal tai efallai y bydd modd i ti wneud cais am daliad disgresiwn at gostau tai i helpu gyda dy gostau.
- Os nad wyt yn derbyn budd-daliadau efallai y bydd modd i ti wneud cais am gredyd cynhwysol a all gynnwys help tuag at dalu dy rhent.
- Gellir gwirio yr hyn y mae modd i ti hawlio yma.
- Os wyt ti eisiau gadael dy denantiaeth yn gynnar oherwydd coronfeirws (er enghraifft, rwyt yn fyfyriwr ac wedi gorfod dychwelyd gartref i fod gyda’r teulu), mae’n rhaid i ti wneud yn siŵr dy fod yn dod a’r denantiaeth i ben yn y ffordd gywir.
- Rwyt dal yn gyfrifol am dalu dy rhent tra bod dy denantiaeth yn parhau, hyd yn oed os nad wyt yn byw yno.
- Gwiria dy gytundeb tenantiaeth i weld a yw’n dweud unrhyw beth am dalu rhent pan nad ydych yn yr eiddio neu ddod â’r denantiaeth i ben yn gynnar.
- Cysyllta gyda dy landlord cyn gynted â phosib i esbonio dy sefyllfa.
- Dim ond os oes cymal torri neu os byddwch yn negodi diwedd cynnar i’r cytundeb gyda’r landlord y mae modd dod â thenantiaeth tymor penodol i ben yn gynnar.
- Efallai y bydd dy landlord yn cydymdeimlo â dy gais i adael os yw’n deall dy rhesymau. Er enghraifft, os bu’n rhaid i ti symud ar frys oherwydd dy fod di neu aelod o’r teulu yn sâl neu angen cefnogaeth.
- Os oes angen i ti gasglu dy eiddo o denantiaeth yr wyt yn barod wedi symud allan ohoni, edrycha ar y canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru yn gyntaf.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am adael tenantiaeth yn gynnar yma.
- Os oes cytundeb tenantiaeth gennyt yna ni all dy landlord ofyn i ti adael heb ddilyn y camau cywir i dy ddadgartrefu.
- Mae’r camau yma’n dal i fod yn berthnasol yn ystod y pandemig.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, mae deddfau brys yn golyg bod gennych hawl i 6 mis o rybudd cyn y gall eich landlord wneud cais i’r llys i’ch dadgartrefu. Os ydych chi’n r
- Mae’n anghyfreithlon i’ch landlord wneud i chi adael heb roi’r rhybudd amser cywir i chi neu gael gorchymyn llys
- Mae hefyd yn anghyfreithlon i dy landlord i dy gloi allan o dy gartref.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ddadgartrefu anghyfreithlon yma.
- Os yw aros gartref yn dy rhoi mewn perygl o gael dy gam-drin gan rywun arall yn dy gartref, mae help ar gael.
- Nid yw cyfyngiadau symud yn dy atal rhag gadael y tŷ i gael help.
- Os wyt mewn perygl uniongyrchol, ffonia 999.
- Os wyt yn poeni y byddai siarad yn dy rhoi mewn mwy o berygl, mae modd defnyddio’r system Ateb Tawel. Pan fyddi di’n ffonio 999, bydd derbynnydd ffôn yn gofyn pa wasanaeth brys yr wyt eisiau. Os na elli siarad, dalia ar y llinell nes i ti glywed y neges “rydych chi drwodd i’r heddlu”. Yna dylet bwyso 55 – bydd dy alwad yn cael ei throsglwyddo i’r heddlu lleol fel argyfwng.
- Os oes rhaid i ti adael oherwydd camdriniaeth neu fygythiadau cam-drin, cysyllta gyda dy gyngor lleol, dylent allu dy helpu i ddod o hyd i rywle i aros. Mae mwy am ba help sydd ar gael yma.
- Os wyt ti’n teimlo dy fod yn cael dy gam-drin ac angen siarad â rhywun, mae yna sefydliadau ar agor – defnyddia’r teclyn chwilio isod.
Efallai y bod modd i ti gael budd-daliadau os:
- wyt ti’n colli dy swydd
- nad wyt ti’n gallu gweithio oherwydd salwch neu’n hunanynysu
- yw dy cyflog yn gostwng.
Defnyddia gyfrifiannell budd-daliadau entitledto i weld beth alli di ei hawlio.
Os wyt ti o oedran gweithio efallai y bod modd i ti wneud cais am gredyd cynhwysol (CC). Gall CC gynnwys cais am help gyda dy gostau tai, gan gynnwys taliadau rhent. Fel arfer mae’n rhaid aros 5 wythnos cyn y taliad cyntaf ond efallai y bydd modd cael blaenswm CC o fewn ychydig ddyddiau os nad wyt ti’n gallu aros.
Mae ceisiadau am Gredyd Cynhwysol yn cael eu gwneud ar-lein. Unwaith eich bod wedi gwneud cais ar-lein, bydd Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwneud apwyntiad i siarad â chi, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Os oes gennych anabledd neu salwch sy’n effeithio ar eich gwaith, efallai y bydd angen asesiad meddygol mewn perthynas â’ch cais. Clicia yma i gael mwy o fanylion am sut i wneud cais.
I gael mwy o wybodaeth ar wneud cais am fudd-daliadau yn ystod y pandemig coronafeirws clicia yma.
Os wyt ti angen mwy o wybodaeth neu help gyda materion ariannol darllen ein tudalennau cyngor ariannol neu ewch i dudalen cymorth coronafirws y Gwasanaeth Cyngor Arian
Treth Cyngor
Efallai y byddi di’n gallu cael help neu eithriad rhag talu dy dreth gyngor. Mae hyn yn cynnwys pan:
- dy fod ar incwm isel
- bod pawb yn dy gartref yn fyfyrwyr llawn amser mewn prifysgol neu goleg
- mae pawb yn dy gartref o dan 18 oed, neu
- rwyt wedi gadael gofal ac o dan 25 oed.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y help sydd ar gael i dalu dy dreth cyngor yma.
Bwyd
Mae banciau bwyd yn darparu parseli bwyd i bobl mewn angen. Cysyllta gyda’r Trussell Trust i ddod o hyd i dy fanc bwyd agosaf ac yna cysyllta gyda nhw i weld beth sy’n cael ei gynnig yn dy ardal.
Biliau cartref eraill a threuliau hanfodol
Efallai bod modd i ti gael Taliad Cymorth Brys o’r Gronfa Cymorth Dewisol (CCD) i helpu i dalu costau hanfodol fel dewis olaf. Mae mwy o wybodaeth yma.
Os wyt ti’n fyfyriwr prifysgol ac yn cael trafferth gydag arian, cysyllta â dy Undeb Myfyrwyr NUS a gofynna am wneud cais i gronfa caledi prifysgol.
Mae rhai prifysgolion wedi sefydlu tudalennau cyllido torfol i godi arian ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol yn ystod y pandemig. I gael mwy o wybodaeth am gymorth myfyrwyr cer at llyw.cymru.
Er nad eich bod yn gallu byw yn eich llety myfyrwyr oherwydd y coronafeirws, rydych yn atebol i dalu rhent. Cysylltwch gyda’ch landlord neu y darparwr llety i egluro eich sefyllfa. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai fydd yn bosib cyraedd cytundeb i leihau eich rhent yn ystod cyfnod y pandemig neu cael rhyw fath o gytundeb arall. Os tydych ddim yn siwr o’r cytundeb mae’r landlord yn cynnig, mae’n bwysig i chi gael cyngor.
Os rydych efo problemau ariannol ac yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch gyda’ch landlord neu asiant gosod cyn gynted a phosib. Os nad yw yn gallu helpu i newid cost y rhent, efallai fydd yn bosib i chi geisio cyllid gan Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr sydd yn gwynebu trafferthion ariannol. Cysylltwch gyda’r Brifysgol neu’r undeb myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
CYNGOR ARALL
Eisiau sgwrsio?
Gwasanaethau Cymorth Cenedlaethol
- All