Cit Dim Cartref

Rhowch y gorau i’ch crys cartref er mwyn y bobl hynny sydd heb le diogel i’w alw’n gartref

Football fans clapping on the podium of the stadium

Cit Dim Cartref

Rhowch y gorau i’ch crys cartref er mwyn y bobl hynny sydd heb le diogel i’w alw’n gartref

Ar Ddydd San Steffan eleni, rydym yn gofyn i glybiau pêl-droed a’r cefnogwyr i gyfnewid eu crys cartref am eu crys oddi cartref neu eu trydydd crys i helpu pobl sydd heb le diogel i’w alw’n gartref.

Rydym am weld cymaint o dimoedd, chwaraewyr a chefnogwyr ag sy’n bosibl i ymuno â’n hymgyrch #CitDimCartref a gweithio gyda ni i helpu pobl sy’n gorfod delio gyda digartrefedd a chartrefedd peryglus y gaeaf hwn.

Drwy ymuno â’r ymgyrch byddwch yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r argyfwng tai a chodi arian hanfodol i’n cynorthwyo ni i frwydro yn ei erbyn.

Pam Pêl-droed?

Os ydych yn gwylio o’r teras neu ar y teledu o gludwch eich lolfa , mae pêl-droed yn deall pwysigrwydd cartref. Mae cartref yn rhoi synnwyr o hunaniaeth, perthyn ac, uwchlaw popeth arall, cymuned.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae cartref yn rhoi i ni sylfaen a diogelwch i fyw bywyd hapus. Ond, i nifer o bobl, mae’r hawl sylfaenol hwn wedi’i wrthod neu o dan fygythiad.

Am gymryd rhan neu ddarganfod mwy?

Cartref yw popeth

Y Nadolig hwn bydd mwy na 1700 o blant yng Nghymru heb gartref, yn byw mewn hosteli, Gwely a Brecwast, gwestai neu fflatiau heb ddigon o le i fwyta, cysgu a chwarae.

Mae cartref diogel yn angen sylfaenol, a hebddo does gennym ddim sylfeini i ffynnu.

Mae ein tîm yn gweithio’n ddiflino i helpu pobl ar draws Cymru i sefyll dros eu hawliau, codi ar eu traed a dod o hyd i, a chadw cartref. Ond fedrwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi.

RS36799_379A3881-scr

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel a brwydro yn erbyn yr effaith andwyol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.

Rydym yn gwneud hyn drwy ymgyrchu, cynghori a chefnogi – a dydyn ni byrh yn rhoi’r gorau iddi.