Ein Partneriaid Corfforaethol

Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid corfforaethol sydd wedi ein helpu i gefnogi bron i 18,000 o bobl mewn angen tai yng Nghymru y llynedd.

Mae ein tîm codi arian yn gweithio gyda phob cefnogwr corfforaethol i greu a chyflwyno partneriaeth pwrpasol, sy’n cyflawni eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac amcanion busnes tra’n codi arian i Shelter Cymru.

Mae partneriaethau corfforaethol yn rhan hanfodol o’n cymysgedd codi arian. O werthiant cacennau, i ddigwyddiadau seiclo i gasgliadau bwced, mae pob ceiniog a roddir gan y gymuned fusnes yn ein helpu ni i frwydro dros gartrefi diogel, sicr a fforddiadwy i bawb.

Os hoffech gefnogi ein gwaith a dod yn bartner corfforaethol, yna cysylltwch â’r tîm Codi Arian, os gwelwch yn dda.

Mae’r sefydliadau isod eisoes yn cefnogi Shelter Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn: