

Hanner Marathon Caerdydd
Dydd Sul 1 Hydref
Rydym yn chwilio am 500 o redwyr i ymuno â’r frwydr dros gartref yng Nghymru gyda Tîm Shelter Cymru.
Cofrestrwch ar un o’n llefydd ni am £15 yn unig pan rydych yn addo codi £200. Byddwn yn rhoi fest redeg i chi i ddangos ein gwerthfawrogiad. Hefyd, bydd ein tîm profiadol a chyfeillgar ar gael i’ch cefnogi chi gyda hyfforddiant/codi arian.

Mae pob cam yn cefnogi ein brwydr dros gartref.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni, os gwelwch chi’n dda [email protected]
Cartref yw'r man cychwyn


MAE CARTREF YN HAWL DYNOL
Llynedd, helpodd Shelter Cymru bron 18,000 o bobl drwy ein gwasanaethau, gan gynnwys 5,725 o deuluoedd gyda phlant dibynnol. Mae mwy o bobl nag erioed yn dod atom ni i ofyn am help.
Rydym ni’n bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru ac yn brwydro’n erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas. Rydym ni’n gwneud hyn gydag ymgyrchoedd, cyngor a chymorth – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.
Allwn ni ddim parhau i frwydro dros gartref hebddoch chi. Drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Shelter Cymru byddwch yn ein helpu ni i gadw ein gwasanaethau cyngor am ddim ar agor i bawb yng Nghymru.
Sefwch gyda ni. Ymunwch â’r frwydr.