
Rhedwch dros Dîm Shelter Cymru
O rasys canol dinas i ddigwyddiadau rhedeg arfordirol, dewch i fod yn rhan o Dîm Shelter Cymru yn 2024, ac ymunwch â ni yn ein brwydr dros gartref. Y llynedd, gwnaethom helpu bron i 18,000 o bobl yr oedd angen tai arnynt drwy ein gwasanaethau, gan gynnwys 5,725 o blant dibynnol. Ond ni allwn wneud hynny heboch chi – cartref yw popeth, brwydrwch drosto.
Uchafbwyntiau'r calendr
Taith Rhedeg Winter Warmer
Dydd Sadwrn 10 Chwefror

Mae 5K a 10K Caerdydd a Hanner Marathon Taith Rhedeg Winter Warmer ym Mharc Bute yn cynnig y cyfle perffaith i glymu careiau eich esgidiau rhedeg, cael eich ysbrydoli a chanolbwyntio ar hyfforddi yn ystod y gaeaf. Byddwch yn barod am lawer o hwyl, gwenu a chefnogaeth ar hyd y ffordd, yn ogystal â chael medal ar y llinell derfyn.
Ewch i wefan y digwyddiad i gofrestru ac ebostiwch ein Tîm Codi Arian.
Hanner Marathon Llanelli
Dydd Sul 25 Chwefror

Ymunwch â ni i herio eich hun yn un o rasys cyntaf y flwyddyn! Mae’r cwrs yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n cymryd rhan yn eu hanner marathon cyntaf neu 10K. Mae’r llwybr yn wastad gan mwyaf ac yn dilyn llwybr Arfordir y Mileniwm, sy’n edrych dros draeth Llanelli, drwy rai o olygfeydd gorau Sir Gaerfyrddin.
Ffi mynediad: £15
Nod codi arian: £150
E-bost: [email protected]
Marathon Great Welsh
Dydd Sul 17 Mawrth

Mae’r digwyddiad hwn, ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig opsiynau hanner marathon a marathon llawn â golygfeydd hyfryd o’r arfordir a chefn gwlad. Mae’r ras yn berffath ar gyfer y gwanwyn, yn wastad ac yn gyfeillgar, ac yn cynnig cyfle delfrydol i gyflawni eich amser gorau. Mae hon yn ras i bawb, p’un a yw’n dro cyntaf i chi, neu eich bod yn rhedwr profiadol.
Ffi mynediad: £20 (marathon), £15 (hanner)
Nod codi arian: £200 (marathon), £150 (hanner)
E-bost: [email protected]
Marathon Llundain
Dydd Sul 21 Ebrill

Cafodd y Marathon Llundain cyntaf ei gynnal yn 1981 ac mae wedi dod yn un o farathonau mwyaf poblogaidd y byd. Mae’r llwybr yn eich tywys ar hyd llawer o lefydd mwyaf adnabyddus Llundain gan gynnwys Palas Buckingham, y Cutty Sark, Pont y Twr a Canary Wharf. Mae ein llefydd ar gyfer 2024 bellach yn llawn. Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian os oes gennych eich lle eich hun eisoes, ac yr hoffech ein cefnogi.
Ffi mynediad: Am ddim
Nod codi arian: £2,000
E-bost: [email protected]
10K Gorseinon
Dydd Sul 19 Mai

Mae‘r llwybr ffordd hwn, ger aber afon Llwchwr yn Abertawe, yn dechrau ac yn gorffen wrth Ganolfan Hamdden Penyrheol cyn mynd ar hyd Stryd Fawr Gorseinon i ymuno â’r llwybr beicio sydd newydd ei adnewyddu.
Ffi mynediad: £10
Nod codi arian: £100
E-bost: [email protected]
Hanner Marathon Abertawe
Dydd Sul 9 Mehefin

Ymunwch â ni i ddathlu 10 mlynedd o Hanner Marathon Abertawe. Mae’r ras yn dechrau ac yn gorffen yng nghanol y ddinas, gan fynd ar hyd pum milltir o arfordir anhygoel. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bydd y cyfranogwyr yn derbyn medal arbennig ar y llinell derfyn. Beth am gynnwys y teulu cyfan yn y Ras Hwyl i’r Teulu a’r ardaloedd adloniant arbennig.
Ffi mynediad: £15
Nod codi arian: £150
E-bost: [email protected]
10K Helena Tipping Wrecsam
Dydd Sul 21 Gorffennaf

Mae’r cwrs hwn ar gyrion Wrecsam, yn agos at y ffin wledig â Swydd Gaer. Caiff y ras ei chynnal er cof am Helena Tipping a oedd yn aelod o Glwb Athletau Wrecsam. Bydd stonding diodydd ger y pwynt 5km, gyda digon o fwyd, lluniaeth a phethau da ar y llinell derfyn, yn ogystal â medal arbennig.
Ffi mynediad: £10
Nod codi arian: £100
E-bost: [email protected]
Hanner Marathon Caerdydd
Dydd Sul 6 Hydref

Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi datblygu i fod yn un o rasys ffordd hiraf a mwyaf cyffrous y DU. Mae’r cwrs cyflym a gwastad yn mynd heibio llefydd enwocaf y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality a Bae Caerdydd. Mae miloedd o gyfranogwyr yn dod i gefnogi’r rhedwyr mewn dinas sy’n enwog am ei hangerdd at chwaraeon.
Ffi mynediad: £15
Nod codi arian: £200
E-bost: [email protected]
Marathon Eryri
Dydd Sadwrn 26 Hydref

Cafodd Marathon gyntaf Eryri ei redeg yn 1982, ac mae 2024 yn nodi 40 mlynedd ers hynny, sy’n cynnig opsiwn amgen i rasys tref a dinas. Mae Marathon Eryri wedi ennill gwobr Marathon Gorau Prydain ddwywaith. Mae’r llwybr anodd a thrawiadol yn amgylchynnu’r Wyddfa – y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr, sef 1,085m.
Ffi mynediad: £20
Nod codi arian: £200
E-bost: [email protected]
Mwy am ddigwyddiadau lleol
Edrychwch ar ragor o ddigwyddiadau rhedeg ledled Cymru gyda RhedegCymru a TimeOutdoors – cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad o’ch dewis a rhowch wybod i ni os hoffech chi redeg i gefnogi’r frwydr dros gartrefi.
E-bost: [email protected]
Cynlluniau hyfforddi
Dilynwch y dolenni isod i ddilyn cynlluniau hyfforddi i redwyr.
Pecyn i redwyr
