
Heriau seiclo

Ride London
Yn ddathliad o bob peth yn ymwneud â seiclo, mae’r RideLondon-Essex 100 yn ddelfrydol ar gyfer seiclwyr sy’n chwilio am her anodd ond cyraeddadwy. Bydd y cwrs unigryw 100-milltir yn dyst i yrrwyr o bob cefndir a gallu yn teithio ar hyd ffordd odidog ar strydoedd di-drafnidiaeth, gan ddechrau a gorffen yng nghanol Llundain gan gynnwys dolen o gefn gwlad hyfryd Essex yn y canol.
Dyddiad: 28 Mai 2023
Ffi cofrestru: £20
Targed codi arian: £350
Cysylltwch â [email protected] i gofrestru eich lle gyda ni

Castles & Cathedrals MONSTER RIDE
Mae ein Castles & Cathedrals hoff yn ôl ar gyfer 2023 a rydym yn dathlu ei degfed penblwydd gyda llwybr MONSTER newydd sbon. Mae’r llefydd yn gyfyngedig i 400 o seiclwyr i ymgymryd â’r cwrs 80-milltir heriol – sy’n dechrau a gorffen yng Nghaerdydd gan ymlwybro drwy Fro Morgannwg. Fedrwch chi guro amser yr enillydd gwobr Olympaidd, Jamie Baulch i fyny copa mynydd y Bwlch? Het am ddim i bob seiclwr. Perffaith ar gyfer yr haf! Ymunwch â ni ar gyfer anghenfil o ddigwyddiad da.
Dyddiad: 16 Gorffenaf 2023
Ffi mynediad: £40
Cofrestru wedi cau ar gyfer Castles & Cathedrals

Ewch ar eich beic i yrru’r frwydr dros gartref

MAE CARTREF YN HAWL DYNOL.
Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru ac i frwydro yn erbyn yr effaith andwyol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.
Gwnawn hyn gyda chyngor, cymorth ac ymgyrchoedd – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.
Llynedd helpodd Shelter Cymru 17,953 o bobl drwy ein gwasanaethau, yn cynnwys 5,725 o aelwyddydd â phlant dibynnol. Byddwn bob amser yn brwydro dros gartref, a dros bawb sydd heb un. Ond allwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi. Helpwch ni i gadw ein gwasanaethau cynghori ar agor i bawb yng Nghymru sydd angen ein help.
Credwn mai cartref yw popeth.
Sefwch gyda ni. Ymunwch a’r frwydr.