Yn Shelter Cymru credwn y dylai tenantiaid preifat gael y sicrwydd o wybod na allant gael eu dadgartrefu heb reswm.
Er mwyn rhoi’r sicrwydd hyn iddynt, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd dadgartrefu ‘heb fai’
Yng Nghymru mae o leiaf 42% o denantiaid preifat heb gytundeb tenantiaeth tymor parhaol, sy’n eu gwneud yn agored i ddadgartrefu ‘heb fai’.
Os yw tenant yn gofyn am atgyweiriadau neu os yw am wneud cwyn, mae mewn perygl o gythruddo’r landlord a chael ei ddagartrefu.
Does braidd dim amddifyniad cyfreithiol yn erbyn dadgartrefu ‘heb fai’.
Unwaith mae rhybudd wedi’i roi, mae gan denantiaid ddau fis i ddod o hyd i gartref newydd, neu ddod yn ddigartref.
Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy cymhleth i fenywod sydd, yn ôl ein hymchwil, yn fwy tebygol o gael cynnig ‘rhyw am rent’, ac yn gorfod dioddef amodau gwael oherwydd eu bod yn ofni dadgartrefu dialedd.
Rydym am weld tenantiaid preifat yng Nghymru yn cael yr un hawliau â thenantiaid eraill ar draws y byd.
Bydd hyn ddim yn rhwystro landlordiaid rhag cael eu eiddo nôl os oes ganddynt reswm dilys – ond bydd yn rhoi’r hyder i denantiaid os byddant yn talu’r rhent ac yn gofalu am y lle, y bydd ganddynt gartref am ba hyd bynnag y maent ei angen.
Ym mis Ebrill 2019 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn deddfu i wahardd dadgartrefu ‘heb fai’ cyn 2021.