Mae COVID-19 wedi newid y ffordd yr ydym ni i gyd yn byw ein bywydau.
Mae’r pandemig wedi golygu ein bod ni i gyd yn gorfod aros gartref fwy nag arfer – ond beth sy’n digwydd os nad oes gennych chi le i chi’ch hun? Beth sy’n digwydd os ydych chi wedi bod yn cysgu ar soffa ffrind gan nad oes gennych chi gartref i fynd iddo?
Hyd yn oed os oes gennych chi do uwch eich pen, gallech chi fod yn ddigartref – ac mae hynny mor berthnasol nawr ag y bydd pan ddaw’r pandemig i ben.
Efallai eich bod chi’n byw mewn hostel neu dŷ gorlawn gan nad oes gennych chi unman arall i fynd.
Nid yw llawer o bobl ifanc sydd yn y sefyllfaoedd hyn yn sylweddoli eu bod yn ddigartref a’u bod mewn gwirionedd yn profi’r hyn a elwir yn ‘ddigartrefedd cudd’.
Os nad oes gennych chi unrhyw le i alw’n gartref neu os ydych chi’n pryderu eich bod chi, neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod, mewn perygl o fod yn ddigartref, peidiwch ag aros cyn gofyn am help.
Cysylltwch â Shelter Cymru heddiw.
Llinell gymorth cyngor tai
Nid yw hi byth yn rhy hwyr nac yn rhy gynnar i gael help
Mewn partneriaeth â
Sgwrsiwch ag un o’n cynghorwyr gan ddefnyddio
ein gwasanaeth negeseuon gwib
Dan 25 oed ac angen cyngor ar dai?
Mae ein hadran cyngor i bobl ifanc yn rhoi cyngor annibynnol, cyfredol, am ddim ar lawer o broblemau tai cyffredin, gan gynnwys bod yn hwyr yn talu eich rhent, rheoli eich arian neu sefydlu eich cartref cyntaf.