Diolch am sefyll gyda ni
Gallwch ein helpu ni i amddiffyn yr hawl i gartref diogel. Gyda’n gilydd, gallwn frwydro yn erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.
Cartref yw popeth.

Byddwn yn cysylltu i roi gwybod am ffyrdd y gallwch ddod yn rhan o’r ymgyrch.
Cyfrannwch heddiw os gwelwch yn dda
Mae’r frwydr dros gartref yn dechrau fan hyn ond ni allwn wneud hyn hebddoch chi. Helpwch ni i gadw ein gwasanaethau cynghori am ddim ar agor i bawb yng Nghymru sydd angen ein help.
Dros bob pensiynwr sy’n byw gyda llwydni dinistriol. Dros bob plentyn â gwaith cartref ond heb gartref. Dros bob tenant a orfodir i gael rhyw am rent. Dros bob person sy’n cael ei droi allan am ddod allan.