Ymwybyddiaeth LHDT+ (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Traws)

Yn yr adran hon cewch hyd i gyngor wedi’i anelu at bobl sy’n adnabod eu hunain fel LHDT+. Er bod y rhan fwyaf o’n cyngor yr un fath heb ystyried rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd rydym yn ymwybodol bod ardaloedd penodol sy’n effeithio ar bobl sy’n adnabod fel LHDT+ yn fwy nag eraill. Yr ardaloedd hyn yw:

  • Digartrefedd, yn enwedig pobl yn eu harddegau sydd newydd ddweud wrth eu teuluoedd am eu rhywioldeb.
  • Camdrin /Trais Domestig
  • Gwahaniaethu (er enghraifft gan eich landlord neu gymdogion)

Digartrefedd

Mae pobl sy’n adnabod fel LHDT+ yn fwyaf tebygol o fod mewn perygl o ddigartrefedd o gwmpas yr adeg pan eu bod yn dweud wrth eu teuluoedd am eu rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl yn eu harddegau. Am gyngor cyffredinol ar ddigartrefedd a beth i’w wneud os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd ewch i’n hadran ar ddigartrefedd.

Os ydych yn ystyried dweud wrth eich teulu am eich rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd ac yn poeni y gallai hyn arwain at ddigartrefedd, yna cysylltwch â’n cyngor dros y ffôn neu ebost am wybodaeth bellach.

Os ydych wedi cael eich gwnued yn ddigartref ar ôl dweud wrth eich teulu am eich rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd ac yr hoffech wybod pa help sydd ar gael, ewch i adran ‘Cyngor yn agos i chi’ ar ein gwefan.

Camdrin/trais domestig

Er bod ymchwil manwl yn gyfyngiedig, yn fras mae 25% o bobl mewn perthynas o’r un rhyw yn dweud eu bod wedi dioddef camdrin/trais domestig ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae hyn yn gyson gyda’r ffigwr y bydd 1 mewn 4 menyw ac 1 mewn 6 dyn yn dioddef camdrin/trais domestig ar ryw bwynt yn eu bywydau. Mae’r achosion hyn o gamdrin, fodd bynnag, yn digwydd heb eu riportio gan fwyaf yn enwedig ymhlith pobl sy’n adnabod eu hunain fel LHDT+.

Os hoffech gyngor ar gamdrin/trais domestig a dolenni defnyddiol i asiantaethau a all eich cynghori ymhellach yna ewch i’n hadran camdrin/trais domestig. Os hoffech gyngor wedi’i deilwra’n well yna cysylltwch â’n llinellau cynghori ar y ffôn neu ar-lein neu ewch i’n hadran ‘Cyngor yn agos i chi’ ar ein gwefan.

Gwahaniaethu

Gall gwahaniaethu gymryd sawl ffurf a o dan Ddeddf Cyfartaledd (2010), mae gwahaniaethu yn erbyn rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd person yn erbyn y gyfraith. Yn anffodus, o bryd i’w gilydd rydym yn dal i gael pobl yn ein cymorthfeydd sy’n profi gwahaniaethu naill ai wrth eu landlord neu eu cymdogion.

Mae Shelter Cymru yn cydnabod bod pobl yn aml yn dioddef o ddigartrefedd neu angen tai fel gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol yn eu herbyn oherwydd hil, rhyw, anabledd neu rhywioldeb. Yn ychwanegol at hyn mae nifer o ffactorau, nodweddion a sefyllfaoedd personol eraill sydd yn gallu effeithio er gwaeth ar wasanaethau, darpariaeth a chefnogaeth fel oed, dosbarth, daliadau gwleidyddol neu grefyddol, cenedligrwydd, statws HIV, problemau yn ymwneud â chyffuriau, statws priodasol, statws ffoaduriaid a record troseddol ymhlith eraill. Mae digartrefedd yn ei hun yn fater o wahaniaethu.

Mae Shelter Cymru yn credu y dylai pobl sydd yn ddigartref neu mewn angen tai gael gwasanaethau effeithlon a mynediad i lety addas a fforddiadwy gyda chyfleoedd i gael reolaeth dros eu bywydau eu hunain er waethaf unrhyw nodweddion neu amgylchiadau personol arall.

Mae Shelter Cymru hefyd yn cydnabod wrth gyflwyno ei wasnaethau eu hunan ac wrth gyflogi staff neu recriwtio aelodau o’r Bwrdd neu wirfoddolwyr, neu wrth recriwtio cefnogwyr ymgyrchoedd ei fod yn sicrhau nad yw yn gwahaniaethu’n anfwriadol yn erbyn pobl.

Cydnabyddir hefyd ei bod yn rhaid i Shelter Cymru herio gwahaniaethu mewn gwasanaethau tai a digartrefedd a sicrhau ei fod yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal yn bositif o fewn ei wasanaethau, polisiau a dulliau o weithio fel cyflogwr.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi profi gwahaniaethu yn eich herbyn yna cysylltwch â’n gwasanaethau cynghori ar y ffôn neu ar-lein neu ewch drwy’r adran ‘Cyngor yn agos i chi’ ar ein gwefan am gyngor wyneb yn wyneb yn eich ardal.

Cyngor pellach

Mae nifer o sefydliadau sy’n darparu cyngor i bobl sy’n adnabod eu hunain fel pobl LHDT+ ar draws nifer o ardaloedd. Am gyngor ar faterion tai eraill ewch i’r ddolen ‘Mynnwch Gyngor’ ar dop y dudalen. Os hoffech gysylltu ag asiantaethau eraill am gyngor ewch i’r dolenni defnyddiol isod:#

CYNGOR A CHEFNOGAETH

Stonewall Cymru
Yn darparu cyngor i bobl sy’n adnabod eu hunain fel pobl LHDT+ a hefyd ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn y broses o newid pethau. Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnwys adnodd chwilio i ddod o hyd i wasanaethau cynghori wedi’u teilwra yn agos i chi.

Cymorth i Ferched Cymru
Os ydych chi neu ffrind yn profi trais/camdrin domestig ac yr hoffech fwy o wybodaeth.

Prosiect Dyn Cymru
Yn darparu cyngor a chefnogaeth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy’n profi trais/camdrin domestig.

Traws*Newid Cymru
Prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc traws* i ddeall eu hawliau ac i gefnogi gweithdrefnianau i bobl ifanc i fynd i’r afael â gwahaniaethu.

Llinell Gymorth LHDT+ Cymru
Llinell gymorth a gwasanaeth cwnsela i bobl sy’n adnabod eu hunain fel LHDT+, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Pride Cymru
Yn ogystal â digwyddiad blynyddol sy’n dathlu popeth LHDT+ mae Pride Cymru yn trefnu amrywiaeth o brosiectau drwy gydol y flwyddyn i ddod â phobl sy’n adnabod eu hunain fel pobl LHDT+ at ei gilydd, yn cynnwys cynhadledd ieuenctid a boreau coffi rheolaidd.

Rainbow Bridge
Gwasanaeth cynnal arbenigol i bobl sy’n dioddef o drais domestig sy’n adnabod eu hunain fel pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Rydym yn cael ein rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr ac wedi cael ein ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr. Ein cenhadaeth yw cefnogi dioddefwyr trais domestig o’r gymuned LHDT+; ymbweru a chynyddu lefelau hyder y gymuned i gael mynediad i gefnogaeth ac asiantaethau Cyfiawnder Troseddol; codi ymwybyddiaeth o’r mater a chynyddu cyfeiriadau am gefnogaeth yn gyffredinol.

Rydym yn rhoi cefnogaeth wyneb yn wyneb i ddioddefwyr sy’n cael ei arwain gan ddioddefwyr ac sydd wedi’i deilwra i gwrdd ag anghenion yr unigolyn. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy Eiriolaeth, Diogelwch Personol a Chartref, a Chymorth Anafiadau Troseddol. Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth ffoniwch 0300 3031 982

Cyngor Cyfartaledd Rhanbarthol Bae Abertawe

Os ydych angen cyngor neu yn dymuno gwneud cwyn, yna gall CCRBA eich cefnogi gyda chyngor arbenigol a di-duedd.

Switchboard – Llinell gymorth LHDT+

Gwasanaeth llinell gymorth y gallwch ei galw i gael cefnogaeth a gwybodaeth. Does dim byd na allwch ei drafod a mae popeth yn gwbl gyfrinachol.

The LGBT Foundation

Elusen genedlaethol sy’n cynnig ystod o gefnogaeth yn cynnwys cymorthfeydd, gwasanaethau cynghori, cynllun creu ffrindiau, rhaglen iechyd rhywiol a phrosiect cam-drin sylweddau.

Albert Kennedy Trust

Mae’r elusen ddigartrefedd hon yn gallu eich helpu drwy gynnig cyngor a chefnogaeth ar dai os ydych yn ddigartref ar hyn o bryd, mewn perygl o fod yn ddigartref, neu efallai yn byw mewn amgylchedd gelynieithus neu dreisiol.

GRWPIAU CYMUNEDOL

Pride Cymru

Yn ogystal â digwyddiad blynyddol sy’n dathlu popeth LHDT+ mae  Pride Cymru yn trefnu amrywiaeth o brosiectau drwy gydol y flwyddyn i ddod â phobl sy’n adnabod eu hunain fel pobl LHDT+ at ei gilydd, yn cynnwys cynhadledd ieuenctid a boreau coffi rheolaidd.

Gay Gwynedd

Mae’r wefan hon yn adnodd gwych ar gyfer digwyddiadau, cyfleoedd cyfarfod, cyngor ar iechyd a gwybodaeth ar gyfer pobl LHDT yng Ngwynedd a Gogledd Cymru.

CETMA (LHDT Llanelli)

Os ydych yn chwilio am gefnogaeth gymunedol a chysylltiadau, mae’r sefydliad hwn yn Llanelli yn helpu pobl LHDT i gysylltu â’u cymuned a herio agweddau yn y cyfryngau. Maent yn trefnu digwyddiadau rheolaidd, cyfleoedd cyfarfod, ac yn trefnu dydd LHDT Llanelli.

Glitter Cymru (De Cymru)

Cyfle cyfarfod misol ar gyfer pobl LHDT DAELl (BAME) yng Nghaerdydd a De Cymru lle gallwch gysylltu a dod i adnabod pobl o’r un feddylfryd.

Rainbow Biz (Sir Fflint)

Mae’r fenter gymdeithasol hon yn annog cynhwysiad ac yn dathlu’r gwahaniaethau yn Sir Fflint. Os ydych yn edrych am gyfleoedd i gysylltu â’ch cymuned, maent yn cynnal prosiectau cymunedol rheolaidd, cyfleoedd cyfarfod a digwyddiadau.

Pêl Droed Stryd Cymru

Tra’n hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, mae’r elusen hon yn bodoli i wella bywydau a chyfleoedd i bobl sydd wedi’u heithrio yng Nghymru drwy ddefnyddio pêl droed stryd.

Bi Cymru

Rhwydwaith cefnogol Cymru gyfan ar gyfer pobl deurywiol a’r rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n ddeurywiol. Maent yn trefnu cyfleoedd cyfarfod a gweithdai ond maent hefyd yn darparu hyfforddiant i sefydliadau.

AR GYFER SEFYDLIADAU

Tai Pawb

Yn hyrwyddo cyfartaledd a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, mae Tai Pawb yn cynnig cefnogaeth i sefydliadau drwy amrywiol raglennni hyfforddiant i helpu i fewnosod anghyfartaledd i ymarferiadau, polisiau a diwylliant.

Cyngor Ffoaduriaiad Cymru

Maent yn cyflwyno gwasanaethau cefnogi, yn ogystal ag addysg ac hyfforddiant i geiswyr lloches, ffoaduriaid, gwirfoddolwyr a sefydliadau.

Am gyngor brys ffoniwch ein llinell gymorth arbenigol ar 08000 495 495

Neu, am ymholiadau sydd ddim yn fater brys defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor ar ebost. Bydd ymgynghorydd yn anelu i ateb ebyst o fewn pum diwrnod gwaith.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch ein posteri i’w rannu gyda’ch ffrindiau / cydweithwyr.

Lawrlwythwch poster SAES

Supported by