Yr Iaith Gymraeg

Mae Shelter Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal yng ngweithredoedd busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gennym Gynllun Hybu’r Gymraeg sy’n dangos sut mae Shelter Cymru yn gweithredu’r egwyddor hwn pan yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

Ein nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ym mhob agwedd o’n gwaith yn unol â’r cynllun.  Mae Shelter Cymru o’r farn bod cael Cynllun Hybu’r Gymraeg yn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy effeithiol i bobl Cymru.