YMUNWCH Â’R FRWYDR YN ERBYN GWAHANIAETHU

Ni ddylai neb gael gwrthod yr hawl i gartref diogel oherwydd pwy ydynt. Sefwch gyda ni yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu drwy arwyddo ein llw heddiw.

YMUNWCH Â’R FRWYDR YN ERBYN GWAHANIAETHU.

Ni ddylai neb gael gwrthod yr hawl i gartref diogel oherwydd pwy ydynt. Sefwch gyda ni yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu drwy arwyddo ein llw heddiw.

Mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhywun sy’n chwilio i rentu yng Nghymru. Er gwaetha’ hyn gwnaeth dros 75,000 o bobl ar draws Cymru adrodd am wahaniaethu tra’n ceisio dod o hyd i’w cartref presennol.

Mae mwy nag un mewn tri o landlordiaid yn gwrthod – neu yn dweud ei bod yn well ganddynt beidio â– rhentu i bobl sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau.

Profodd Sian wahaniaethu yn ei herbyn tra’n ceisio dod o hyd i gartref iddi hi a Iolo, ei babi pum mis oed. Daeth ei pherthynas hir dymor â thad Iolo i ben a bu’n rhaid iddynt werthu’r tŷ a brynwyd gyda’i gilydd ychydig flynyddoedd yn gynt. Roedd hi mewn angen brys am gartref tra’n aros i’r eiddo gael ei werthu.

Pan aeth Sian at ei chyngor lleol dywedwyd wrthi nad oedd hi mewn angen blaenoriaethol a nad oedd hi’n gallu cael mynediad i gefnogaeth wrth yr adran ddigartrefedd tan ei bod yn cyrraedd camau olaf gwerthiant y tŷ ac y byddai cyfnod hir o aros am gartref cymdeithasol iddi hi a Iolo. Aeth hi at Shelter Cymru am gymorth a fe wnaethon nhw gysylltu â’r cyngor lleol ar eu rhan a llwyddwyd i’w symud i fand blaenoriaethol ar gyfer y rhestr aros am dŷ cymdeithasol. Yn anffodus, roedd hyn yn rhy hwyr i Sian gan ei bod eisoes wedi colli allan ar eiddo yn yr ardal o ganlyniad i’r ffaith bod y cyngor wedi gwneud camgymeriad o ran y bandio.

Ar yr un adeg ag y gwnaeth Sian fynd at y cyngor am gymorth gyda’i sefyllfa dai, wnaeth hi hefyd wneud cais i landlord lleol am eiddo dwy ystafell wely yn yr ardal leol. Roedd y rhent ar yr eiddo yn £511 y mis, a oedd yn gyfforddus o fewn ei chyllideb. Roedd Sian ar gyflog rhan amser wedi’i ychwanegu ato gan lwfans tai Credyd Cynhwysol, a doedd ganddi ddim dyled. Er gwaethaf hyn, cafodd ei gwrthod oherwydd fod canran fach o’i hincwm yn dod o fudd-daliadau.

Bu’n rhaid i Sian wedyn fynd i chwilio am gartref drwy asiantaethau gosod lleol a llwyddodd yn y pen draw i sicrhau cartref iddi hi a’i babi bach ar gost o £650 y mis – swm mawr i fam ifanc sy’n gweithio rhan amser. Ond roedd y siwrnai o geisio cael hyd i gartref drwy asiantaeth osod yn un anodd iawn gan fod  y rhan fwyaf o asiantaethau yn gofyn am 6 mis o rhent ymlaen llaw sy’n eithrio bron pawb sydd yn derbyn budd-daliadau. Yn ffodus, llwyddodd i ddod o hyd i gartref iddi hi a Iolo yn y diwedd ond bu’n rhiad i’w thad weithredu fel gwarantydd iddi, a oedd yn ddibynnol arno fe yn ennill dros £20,000 y flwyddyn.

Meddai Sian:

‘Roedd yn naw mis o uffern. Aeth gwerthiant y tŷ drwodd ar ôl pedwar mis ac am y pum mis nesaf bu’n rhaid i fi ddychwelyd i fyw gyda fy rhieni. Roedd y pwysau a’r synnwyr o anghyfiawnder yn llethol ar adegau. Y cyfan roeddwn i eisiau oedd cartref sefydlog i fi fy hunan a Iolo, a oedd â phroblemau iechyd o ganlyniad i’r ffaith iddo gael ei eni’n gynnar. Dwi’n fam sengl sy’n gweithio ac yn dymuno darparu cartref da er mwyn i fy mab gael ffynnu ynddo, ond mae’r gwhaniaethu yn erbyn pobl fel fi sy’n derbyn budd-daliadau mor annheg.

Fe gollon ni allan ar gartref perffaith, fforddiadwy drwy gymdeithas tai oherwydd hyn, a dwi bellach yn talu £140 y mis yn fwy mewn lle rhent preifat. Oni bai am fy rhieni a oedd mewn sefyllfa i weithredu fel gwarantwyr, mi fyddwn i’n dal yn ddigartref nawr a galla’i ddim dychymygu’r canlyniadau i fi a Iolo. Mae’r gwahaniaethu hwn yn erbyn pobl sydd ar fudd-daliadau yn gorfod dod i ben oherwydd, oni bai am fy nhad, byddai Iolo a finnau yn ddigartref a dwi’n teimlo dros bobl eraill yn yr un sefyllfa â fi sydd heb y gefnogaeth ariannol honno.’

Rydym yn gwybod ei fod yn brofiad dinistriol i ddod o hyd i le i’w alw’n gartref dim ond i gael eich gwrthod rhag rhentu neu hyd yn oed i weld y lle oherwydd eich rhywedd, rhywioldeb, ethnigrwydd neu anabledd.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Arwyddwch ein llw a dweud nad ddylai unrhywun gael eu gwrthod yr hawl i gartref diogel oherwydd gwahaniaethu. Mae’n bryd rhoi terfyn ar yr arfer anghyfreithlon hwn.

Ychwanegwch eich enw heddiw ac ymunwch â’r frwydr yn erbyn gwahaniaethu yn sector tai Cymru.

ADRODDWCH AM HYN

Does dim digon o bobl yn gwybod bod gan denantiaid yng Nghymru amddiffyniadau ychwanegol.

Rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i adrodd am brofiadau pobl sydd wedi profi gwahaniaethu tra’n edrych am gartref, fel y gallant weithredu yn erbyn landlordiaid sy’n troseddu.

Os ydych wedi profi gwahaniaethu, rhannwch eich profiad os gwelwch yn dda.

web_0149_1920px_crop
RS31674_CHRIS_STEMP_074-©-SHELTER_-Alexandra-SmartCOPY-2-original-scaled-800x400

HERIWCH HYN

Os ydych wedi profi polisi ‘dim DSS’ rydych siwr o fod wedi profi gwahaniaethu yn eich herbyn. Defnyddiwch y Pecyn Cymorth hwn i weld beth allwch ei wneud.