Rhentu Teg

A yw hi’n deg fod miloedd o blant yng Nghymru yn gorfod byw mewn amodau gwael, gan gynnwys peryglon trydanol, lleithder, llwydni ac oerni?

Yng Nghymru, dywedodd bron un o bob deg tenant preifat â phlant dibynnol fod iechyd eu plant wedi cael ei effeithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn sgîl eu landlord yn peidio â mynd i’r afael ag atgyweiriadau ac amodau gwael.

Mae hyn yn golygu y gall fod hyd at 10,000 o blant y flwyddyn yn dioddef iechyd gwaeth oherwydd amodau gwael mewn tai rhent preifat[1].

Bob dydd, yn Shelter Cymru, rydym yn cyfarfod â rhentwyr preifat sy’n byw mewn amodau ofnadwy. Beth sy’n anodd iawn am y sefyllfa yw mai ychydig bach iawn o hawliau sydd ganddynt i wella eu sefyllfa.

Mae tenantiaid yn gwybod y gall eu landlord eu gwneud nhw’n ddigartref am ddim rheswm o gwbl. Maen nhw’n gwybod, os byddant yn herio eu landlord, bydd yn frwydr y byddant yn ei cholli yn y pen draw.

Felly, mae tenantiaid yn gwneud yr unig beth y gallan nhw i amddiffyn eu teuluoedd, sef symud… a symud… a symud. Mae bron un o bob pump o rentwyr preifat â phlant wedi symud tair gwaith neu fwy yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Nid yw’r landlord byth yn gorfod wynebu ei gyfrifoldebau, gan fod Cymru mewn argyfwng tai a bydd bob amser set o denantiaid eraill i symud i mewn.

Gallwn wneud yn well na hyn

Yn Shelter Cymru, credwn y dylai fod gan rentwyr preifat y sicrwydd o wybod na allant gael eu troi allan ar fympwy’r landlord. Os ydyn nhw’n cadw at delerau eu cytundeb tenantiaeth, a yw hi’n deg fod gan y landlord yr hawl i’w gwneud nhw’n ddigartref ar unrhyw adeg?

Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru eisiau gwella’r sector rhentu preifat. Mae cyfreithiau newydd wedi cael eu cyflwyno i wella amodau, ond trwy hawliau cryfach i denantiaid yn unig y gellir cyflawni hyn.

Nid oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i gyflawni digon o orfodaeth. Yn yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae awdurdodau Cymru wedi erlyn cyfartaledd o un landlord fesul awdurdod, y flwyddyn yn unig.

Mae cyllidebau wedi cael eu lleihau cymaint fel bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhybuddio bod tîmoedd iechyd yr amgylchedd mewn perygl o fethu cyflawni eu swyddogaethau sylfaenol.

Nid yw gwella amodau tai gwael yn y cyfnod llwm hwn yn hawdd, ond, mae’n hanfodol os ydym yn mynd i wella iechyd a lles pobl.

Grymuso tenantiaid i sefyll dros eu hawliau eu hunain, a gweithio gyda’u landlord i wella cyflwr eu tai, yw’r unig beth synhwyrol i’w wneud.

Beth ddylai’r Cynulliad ei wneud

Mae’r Bil Rhentu Cartrefi, sy’n cael ei ystyried gan y Cynulliad ar hyn o bryd, yn cynnwys llawer o fesurau i symleiddio cyfraith tenantiaeth yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’i gynigion yn synhwyrol. Ond, ar hyn o bryd, mae un rhan o’r Bil yn debygol o wneud sefyllfa tenantiaid yn waeth, nid yn well.

Ar hyn o bryd, mae gan bob rhentwr ddiogelwch rhag cael ei droi allan am chwe mis ar ddechrau ei denantiaeth – ‘moratoriwm chwe mis’.

Mae’r Bil yn cynnig cael gwared ar y moratoriwm, gan roi pŵer i landlordiaid gadw tenantiaid gyda bygythiad o gael eu troi allan o’r dechrau’n deg.

Nid oes dim byd yn y Bil ynghylch diogelwch i rentwyr, a dim byd am lefelau rhent. Mewn gwirionedd, mae’r Bil yn cynnig gwaredu hawliau tenantiaid i apelio yn erbyn cynnydd afresymol mewn rhent.

Ond, yn gadarnhaol, mae’r Bil yn cynnig cyflwyno safonau ‘addasrwydd i bobl fyw yno’ – ond, pwy fydd yn eu gorfodi?

Bydd y Bil Rhentu Cartrefi, yn ôl y drafft presennol, yn golygu mai sector rhentu preifat Cymru fydd y mwyaf ansicr yng ngorllewin Ewrop. Bydd Cymru yn denu landlordiaid twyllodrus. Y tenantiaid tlotaf, mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef yr effeithiau gwaethaf.

Ond, mae’r Bil yn gyfle hefyd – rydym yn galw ar y Cynulliad i ddiwygio’r drafft presennol fel ei fod yn cynyddu sicrwydd tenantiaid preifat yng Nghymru, nid ei leihau. Mae’r moratoriwm chwe mis presennol llawer yn rhy fyr; dylai Cymru gyflwyno tenantiaethau diogel ar gyfer pawb, sy’n rhoi diogelwch tymor hwy i deuluoedd ac yn creu cymdogaethau sefydlog.

Grymuso tenantiaid i sefyll dros eu hawliau eu hunain, a gweithio gyda’u landlord i wella cyflwr eu tai, yw’r unig beth synhwyrol i’w wneud.

Beth allwch chi ei wneud

Ysgrifennwch at Aelodau’r Cynulliad, ac at y Gweinidog Tai os dymunwch, i ofyn iddynt roi’r cynllun pum pwynt hwn ar waith:

  1. Tenantiaethau diogel i bawb – rhoi’r hawl i denantiaid aros mor hir ag sydd angen iddynt, os byddant yn cyflawni rhwymedigaethau eu tenantiaeth – gyda chynnydd rhagweladwy mewn rhent, yn unol â chwyddiant.
  2. Diogelu tenantiaid rhag cynnydd anghyfartal mewn rhent – peidiwch â chael gwared ar eu hawl i apelio.
  3. Rhoi hawl i denantiaid gadw anifeiliaid anwes ac addurno fel y dymunant, gan ddychwelyd y llety i’w gyflwr blaenorol pan fyddant yn gadael.
  4. Hybu a diogelu cyllidebau iechyd yr amgylchedd trwy ddarparu cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi.
  5. Profion diogelwch gorfodol – ei gwneud hi’n ofynnol i landlordiaid gyflawni profion diogelwch trydanol bob pum mlynedd a darparu larymau carbon monocsid.
  6. Estyniad o’r Tribiwnlys Eiddo preswyl – i annog a hyrwyddo trafodaethau rhwng landlordiaid a thenantiaid , yn hytrach na gorfodi pobol i fynd i’r llysoedd
  7. Gwaharddaid ar ffioedd asiantaethau gosod yng Nghymru –mae ffioedd yn gostau busnes, a dylent gael eu talu gan y busnes neu’r landlord, yr un sy’n elwa o’r busnes
  8. Cefnogaeth i Undeb Tenantiaid – fel y gall tenantiaid gael eu llais wedi’i glywed gan y Llywodraeth ynglyn â newidiadau sy’n effiethio arnyn nhw.

[1] Amcangyfrif yn seiliedig ar ffigurau Cyfrifiad 2011 ar gyfer aneddiadau â phlant dibynnol yn y sector rhentu preifat yng Nghymru (66,125) wedi’i luosi gyda nifer cyfartalog y plant fesul anheddiad (1.7)