Mae 112,000 o blant yn byw mewn tai sy’n cael eu rhentu’n breifat yng Nghymru
Mewn dau o bob pump cartref sy’n cael ei rentu’n breifat yng Nghymru, mae o leiaf un perygl difrifol i iechyd.
Gallwn wneud yn well na hyn!
A yw hi’n deg fod miloedd o blant yng Nghymru yn gorfod byw mewn amodau gwael, gan gynnwys peryglon trydanol, lleithder, llwydni ac oerni?
Yng Nghymru, dywedodd bron un o bob deg tenant preifat â phlant dibynnol fod iechyd eu plant wedi cael ei effeithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn sgîl eu landlord yn peidio â mynd i’r afael ag atgyweiriadau ac amodau gwael.
Mae hyn yn golygu y gall fod hyd at 10,000 o blant y flwyddyn yn dioddef iechyd gwaeth oherwydd amodau gwael mewn tai rhent preifat[1].
Bob dydd, yn Shelter Cymru, rydym yn cyfarfod â rhentwyr preifat sy’n byw mewn amodau ofnadwy. Beth sy’n anodd iawn am y sefyllfa yw mai ychydig bach iawn o hawliau sydd ganddynt i wella eu sefyllfa.
Mae tenantiaid yn gwybod y gall eu landlord eu gwneud nhw’n ddigartref am ddim rheswm o gwbl. Maen nhw’n gwybod, os byddant yn herio eu landlord, bydd yn frwydr y byddant yn ei cholli yn y pen draw.
Felly, mae tenantiaid yn gwneud yr unig beth y gallan nhw i amddiffyn eu teuluoedd, sef symud… a symud… a symud. Mae bron un o bob pump o rentwyr preifat â phlant wedi symud tair gwaith neu fwy yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Nid yw’r landlord byth yn gorfod wynebu ei gyfrifoldebau, gan fod Cymru mewn argyfwng tai a bydd bob amser set o denantiaid eraill i symud i mewn.
Ysgrifennwch at Aelodau’r Cynulliad, ac at y Gweinidog Tai os dymunwch, i ofyn iddynt roi’r cynllun pum pwynt hwn ar waith:
Rydym ni angen cymaint o bobl â phosib i roi eu llais tu nôl i’r ymgyrch
Defnyddiwch ein llythyr enghreifftiol i ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad
Rydym angen eich cefnogaeth i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy’n wynebu problem tai ar draws Cymru