Ysgrifennwch at eich Aelod Cynulliad
Mae’r Bil Rhentu Tai, yn ei ffurf bresennol, yn mynd i greu yng Nghymru y sector rhentu tai preifat mwyaf ansefydlog yng Ngorllewin Ewrop.
Nid yw’r Bil yn gyfraith eto ac mae’n rhaid iddo gael ei drafod gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gyntaf. Gall Aelodau Cynulliad ddiwygio’r drafft a gwneud yn siwr bod gennym sector rhentu preifat sydd yn gweithio i’r bobol sydd yn byw o fewn y sector.
Ysgrifennwch, os gwelwch yn dda, at eich Aelodau Cynulliad a gofynnwch iddyn nhw gefnogi newidiadau a fydd yn gwella amodau i rentwyr a’u hamddiffyn rhag codiadau afresymol mewn rhent, a dadfeddiant annheg.
Os wnewch chi roi eich côd post i ni, fe ddanfonwn ni dempled o ebost atoch chi er mwyn ei ddanfon.