“Yn enwedig i fi’n bersonol gyda dau o blant, mae cael cytundeb misol cyfnodol yn golygu y gallan nhw roi dau fis o rybudd i fi a dyna pryd mae eich byd yn troi wyneb i waered”

Roedd Lisa yn byw mewn ty rhent preifat gyda’i gwr, Martin a’u dau o blant.  Teimlai yn hapus ei byd mewn cartref yng Ngogledd Cymru a oedd yn agos i’w gwaith ac i ysgol a ffrindiau’r plant.  Teimlai hefyd bod ganddi berthynas dda gyda’r landlord gan nad oeddent wedi wynebu unrhyw broblemau mawr yn ystod y tenantiaeth.

Foddd bynnag, heb unrhyw rybudd, derbyniodd Lisa orchymyn dadfeddiant.  Gofynwyd iddynt adael eu cartref o fewn 31 diwrnod.

Roeddent mewn sioc ac yn hynod o drist bod y teulu yn gorfod symud, a gyda cyn lleied o rybudd.  Mae Lisa a Martin, ill dau, yn gweithio llawn amser a doedden nhw ddim yn gwybod sut y byddent yn dod o hyd i amser i chwilio am gartref newydd a threfnu symud tra’n gweithio ac edrych ar ôl y plant.  Gwnaed y sefyllfa’n waeth gan bod dyddiad y dadfeddiant ar y 31ain o Ragfyr – y peth olaf redden nhw ei angen oedd y straen o symud o gwmpas y Nadolig.

Ar ôl derbyn cyngor ac eiriolaeth gan Shelter Cymru fe gafodd y dyddiad dadfeddiant ei ohirio gan roi amser gwerthfawr iddyn nhw i drefnu a chodi arian ar gyfer symud.  Ond, er gwaethaf hyn, fe gafodd y profiad effaith  trawmatig ar y teulu.

Cafodd eu merch ei  heffeithio’n fawr  gan ei bod wedi gorfod symud ymhell wrth ei ffrindiau.  Golygai hyn ei bod yn teimlo’n hynod o unig wrth i’w ffrindiau barhau i gymdeithasu tu allan i oriau ysgol, ond hebddi hi.

Roedd Lisa a Martin hefyd yn ei chael hi’n anodd  ymdopi yn ariannol gyda’r symud, er bod y ddau ohonynt  yn ennill cyflogau llawn amser.  Roedd cyfanswm cost y symud ty yn £1,500 yn cynnwys ffi yr asiant o £250, mis o rent fel blaendâl a mis o rent ymlaen llaw.

“petai gen  i £1,500 y mis, yna dwi ddim yn credu y byddwn i’n rhentu yn y lle cyntaf”

Disgrifiodd Lisa yr wythnosau yn arwain at y symud fel cyfnod anodd iawn yn ariannol wrth iddyn nhw geisio cynilo bob ceiniog i dalu’r holl gostau.

Mae Lisa a Martin o’r farn bod diogelwch a sefydlogrwydd yn hanfodol wrth fagu plant, a gan nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall o ran cartrefedd teimlant bod angen i bethau newid er mwyn gwneud rhentu preifat yn well i deuluoedd.  Mae Lisa yn arbennig yn teimlo bod yr isafswm tenantiaeth chwe mis presennol yn annigonol ac mae hi’n teimlo’n hynod o fregus o feddwl y gallant dderbyn rybudd o ddadfeddiant ar unrhyw adeg wrth i’r cytundeb droi yn un misol cyfnodol.

Yn anffodus, mae Lisa a Martin newydd gael rybudd i adael unwaith eto gan bod y landlord am werthu’r adeilad.  Does ganddynt ddim dewis  yn y mater a dydyn nhw ddim yn edrych ymlaen at wynebu’r heriau – ariannol ac emosiynol – o symud o fewn y sector rhentu preifat unwaith eto wrth iddyn nhw barhau i chwilio am gartref sefydlog i’w teulu.

“Mae’n adeg anodd iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol ac mae’n cael effaith ar blant sy’n cael eu dadwreiddio yn gyson ac yn cael eu symud o un lle I’r llall heb unrhyw sefydlogrwydd.  Mae angen ychydig oi sefydlogrwydd ar bawb.

Mae’r holl enwau wedi cael eu newid.